Gwibio i'r prif gynnwys

Os ydych yn rhywun sy’n gadael yr ysgol ac yn meddwl am eich camau nesaf neu’n
ddysgwr mewn oed sydd am ddatblygu eich sgiliau neu’ch cymwysterau, cymerwch y
camau nesaf tuag at eich nod o ran gyrfa yn y dyfodol a gwnewch gais nawr am gwrs yn Y
Coleg Merthyr Tudful.

Gyda dewis o dros 100 o gyrsiau, mae gennym rywbeth at ddant pawb. Felly os ydych am astudio Lefel A, cymwysterau galwedigaethol, Prentisiaethau, Diplomâu, Graddau neu Gymwysterau Proffesiynol, mae gennym gwrs addas ar eich cyfer. Mae ein cysylltiadau gyda busnesau lleol a’r gymuned leol yn golygu y byddwn yn gallu cynnig y cyfle i chi gyfoethogi eich profiad addysgol drwy brofiad gwaith, gweithgareddau gwirfoddoli a chyfoethogi, heriau mentrau, hyfforddi chwaraeon a llawer mwy, pa beth bynnag y dewiswch ei astudio. O’n rhaglen brentisiaeth gyda General Dynamics, ein rhaglen Weldio gyda Tenneco Walker hyd at ein swyddi hyfforddi gyda chlybiau cymunedol, pêl-droed a rygbi lleol, byddwn yn eich helpu nid yn unig i ennill eich cymhwyster ond hefyd i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i’ch gwneud yn wahanol i bawb arall ar eich ffurflen gais i gael cyflogaeth neu i fynd i brifysgol. Yn ogystal, mae graddfeydd ein canlyniadau a’n llwyddiant yn ddiguro; yn 2019 roedd ein graddfa pasio lefel A yn 100% yn ogystal â graddfeydd pasio o 100% mewn llawer o’n meysydd galwedigaethol. Mae ein dysgwyr addysg uwch hefyd yn llwyddo’n gyson i gael canlyniadau da ac yn 2018/2019 cawsom ein dyfarnu’r coleg gorau o holl golegau AB Cymru am foddhad myfyrwyr AU.

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite