Gwibio i'r prif gynnwys

Cyfrif Dysgu Personol

Manteisiwch ar ein cyrsiau RHAD AC AM DDIM a HYBLYG ar draws amrywiaeth o sectorau
allweddol.

Os ydych dros 19, mewn swydd sy’n talu llai na £30,596 y flwyddyn ac yn
awyddus i gymryd y cam nesaf tuag at yrfa wych, efallai mai Cyfrif Dysgu Personol fyddai’r
union beth i chi.

Beth yw cyfrif dysgu personol?

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn cynnig model dysgu awdurdodedig hyblyg sydd wedi’i ariannu’n llwyr i roi cymorth i unigolion cyflogedig sy’n ennill llai na 30K yn ogystal â phobl sydd ar ffyrlo neu sydd â’u swyddi mewn perygl, i gael y sgiliau cywir i naill ai newid gyrfa neu i symud ymlaen i gyflogaeth ar lefel uwch. Cafodd y cyrsiau eu cynllunio’n benodol i fynd i’r afael â hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau ble mae prinder sgiliau i sicrhau y bodlonir gofynion yr economi yn y dyfodol.

Pwy sy’n gymwys?

  • Cyflogedig (gan gynnwys hunangyflogedig) ac ennill o dan yr incwm canolrifol (£30,596 ), neu
    • Gweithwyr ar ffyrlo, gan gynnwys unrhyw un sydd wedi cael mynediad i Gynllun Cymorth Swyddi Llywodraeth y DU neu sy'n cael mynediad iddo, neu
    • Gweithwyr ar gontractau dim oriau, neu
    • Staff asiantaeth, neu
    • Mewn perygl o gael eu diswyddo, neu
    • Unigolion cyflogedig sydd wedi cael eu heffeithio'n negyddol yn negyddol gan yr economi, er enghraifft lle bydd eu cyflog blynyddol disgwyliedig y flwyddyn ariannol hon yn llai na £29,534 neu fod dyfodol eu cyflogaeth mewn perygl oherwydd gweithio mewn sector sy'n debygol o weld effaith negyddol yn digwydd oherwydd COVID-19 neu ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

Sut fydd CDP o fantais i mi?

  • Gwella rhagolygon – rhoi’r sgiliau i chi gadw neu sicrhau swydd.
  • Eich helpu i symud ymlaen at y cam nesaf yn eich gyrfa.
  • Eich helpu i ennill y sgiliau rydych eu hangen i gefnogi newid gyrfa.

I gofrestru'ch ddiddordeb mewn astudio CDP, llenwch y ffurflen yma

Am fwy o wybodaeth neu i siarad â rhywun ynglŷn â’r cyrsiau, cysylltwch â:
enquiries@merthyr.ac.uk

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite