Mae’r Coleg wedi ymrwymo i ddarparu addysgu a dysgu a chymorth o’r safon uchaf i sicrhau y bydd eich mab neu ferch yn gwireddu ei llawn botensial gyda ni.
Canlyniadau’r Coleg a chyfraddau llwyddiant
Mae'r Coleg Merthyr Tudful yn parhau i dderbyn canlyniadau ardderchog flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn ystod haf 2024,Cyflawnodd 98% o ddysgwyr radd A*-E yn gyffredinol, gyda 23% o ddysgwyr yn ennill y graddau A*-A uchaf a 78% o ddysgwyr yn ennill graddau A*-C, cynnydd o 2% ar ganlyniadau 2023 y coleg.
Mae dysgwyr galwedigaethol hefyd yn gwneud yn eithriadol o dda yn eu hastudiaethau academaidd, gyda mwy o raddau uchaf nag erioed yn cael eu dyfarnu ymhob adran o un flwyddyn i’r llall.
Cymorth pontio o’r ysgol i’r coleg
Bydd Y Coleg Merthyr Tudful yn brofiad newydd sbon i’ch mab/merch ac rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn cynnig gymaint o wybodaeth, cyngor a chanllawiau i roi cymorth i chi a hwythau i wneud y penderfyniad cywir ynghylch y cwrs/cyrsiau y maent am astudio yn y coleg ac i sicrhau bod y pontio rhwng yr ysgol a’r coleg mor llyfn â phosibl.
Yn ogystal â chynnig y cyfle i chi ymgysylltu â’n staff mewn digwyddiadau agored, sesiynau blasu'r coleg a sesiynau gwybodaeth rhieni / gofalwyr penodol y coleg hefyd yn mynychu nosweithiau rhieni a gwybodaeth mewn ysgolion, gan sicrhau eich bod yn cael cymaint o gyfle â phosib i siarad â ni, yn cael yr holl wybodaeth rydych ei angen ac yn gofyn cymaint o gwestiynau ag y dymunwch am y cyrsiau a’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig.
Cydweithio â chi i roi cymorth i gynnydd eich mab/merch yn y coleg
Fel ysgolion uwchradd, rydym yn croesawu ymwneud rhieni/gofalwyr a byddwn yn cydweithio â chi i sicrhau y bydd eich mab/ merch yn gwireddu eu llawn botensial. Y rheswm am hyn yw ein bod yn gwybod mai’r myfyrwyr sy’n gwneud orau yw’r rhai sy’n gwneud tri pheth:
- Gweithio’n galed
- Cael cymorth ac addysg gan athrawon ymroddedig o safon uchel
- Cael cymorth ac anogaeth gan rieni
Felly, byddwn yn sicrhau’r canlynol:
- Bydd gennych swyddogaeth lawn yn y bartneriaeth rhwng eich mab/ merch a’r coleg
- Cewch gyfle i ddod i mewn ar ddechrau’r tymor i gwrdd â thiwtoriaid eich mab/merch
- Cewch wybod yn syth am unrhyw achos o ddiffyg presenoldeb
- Byddwch yn cael gwybodaeth gyflawn, gywir ac amserol gan y coleg drwy gydol y cwrs astudio o’u dewis , yn cynnwys cylchlythyron y coleg
- Byddwch yn derbyn adroddiadau cynnydd am eich mab/merch ddwywaith y flwyddyn
- Cewch fynychu noswaith rieni/gofalwyr ddwywaith y flwyddyn i drafod datblygiad eich mab/merch
Trwy gydol y flwyddyn, byddwn yn cynnal nifer o Ddigwyddiadau Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr i sicrhau eich bod yn cael y cyfle i gael yr holl wybodaeth, cyngor, arweiniad a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i gefnogi'ch plentyn yn ystod ei gyfnod pontio i'r coleg a'i amser. Cliciwch yma i weld enghraifft o'r cyflwyniad a'r math o wybodaeth a ddarparwyd.
Yn y cyfamser, os ydych yn poeni neu’n pryderu am y pontio i’r coleg o ran eich mab/merch neu os oes gennych unrhyw gwestiwn o gwbl ynghylch y cyrsiau, y cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael neu gyfraddau llwyddiant a chanlyniadau’r coleg, cysylltwch â’n Tîm Derbyn ar: admissions@merthyr.ac.uk