Deddfwriaeth Cydraddoldeb
O dan Ddyletswyddau’r Sector Cyhoeddus Deddf Cydraddoldeb 2010 mae dyletswydd gan y coleg i gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy’n cyflwyno ein hamcanion cydraddoldeb.
Nod Cynllun Cydraddoldeb Strategol y coleg yw sicrhau bod pob person yn cael ei drin gydag urddas a pharch. Rydym am hyrwyddo a chynnal diwylliant sydd â sylfeini o ymddiriedaeth a pharch ar y cyd yn y berthynas waith rhwng staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â’r coleg.
Cliciwch y dolenni isod i weld dogfennau’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Mae gan y coleg y dogfennau cynllun cydraddoldeb strategol canlynol yn unol â deddf cydraddoldeb 2010
Daeth y Ddeddf Cydraddoldeb, sy’n cyfuno cyfraith wrth wahaniaethu bresennol i fframwaith cyfreithiol unigol, i rym ym mis Hydref 2010. Yn ei chyfanrwydd, cafodd naw darn o ddeddfwriaethau sylfaenol a thros 100 darn o is-ddeddfwriaethau eu hymgorffori yn y Ddeddf, yn cynnwys Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Dylai cyfuno’r rhain yn un darn o ddeddfwriaeth wneud y ddeddf yn haws i’w deall a’i gweithredu.
Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl gyda rhai nodweddion, fel a ganlyn (yn nhrefn yr wyddor):
Mae gan y coleg hefyd bolisïau Urddas yn y Gweithle ac Urddas wrth Astudio gyda’r diben o gynorthwyo datblygu diwylliant a fydd yn hysbys fod triniaeth annheg, gwahaniaethu, bwlio, aflonyddu, erledigaeth ac allgáu yn annerbyniol ynddo. Mae’r polisïau’n cynnig amrywiaeth o ffyrdd i fod o gymorth yn sgil digwyddiadau posibl.
Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG)
Mae dyletswydd gan y coleg i asesu effaith posibl ei weithgareddau ar bobl gyda nodweddion gwarchodedig fel sy’n cael eu hamlinellu yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Mae templed ar gael i gynorthwyo pob adran gydag Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG). Mae disgwyl y bydd pob polisi a gweithdrefn newydd yn y cyfnod datblygu yn cael eu hasesu cyn eu cymeradwyo ac y bydd yr asesiad hwn yn cael ei gofnodi mewn dogfen. Dylai’r holl staff sy’n ymwneud â datblygu ac ysgrifennu polisïau’r coleg gael eu hyfforddi yn y broses Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.