Gwibio i'r prif gynnwys

Rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddeiaeth

Mae ein Rhaglenni Prentisiaeth a Hyfforddeiaeth yn cynnig y cyfle delfrydol i chi gael cymwysterau a sgiliau pan fyddwch mewn swydd (Prentisiaethau) neu’n cyflawni profiad gwaith (Hyfforddeiaethau).

Sut mae’n gweithio?

O ran Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau, byddwch yn treulio pedwar diwrnod yr wythnos mewn cyflogaeth neu leoliad gwaith ac un diwrnod yn y coleg. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu ennill wrth  ddysgu.

Hyfforddeiaethau / twf swyddi yng Nghymru +

❚❚ lwfans o £30 neu £55 sydd ddim yn dibynnu ar brawf modd, yn dibynnu ar ba drywydd o’r rhaglen fyddwch yn ei ddilyn.
❚❚ Datblygu Sgiliau Cyflogadwyedd.
❚❚ Amrywiaeth eang o hyfforddeiaethau ar gael mewn lleoliadau lleol.
❚❚ Cam nesaf wedi hyn yn cynnwys cyflogaeth, prentisiaethau neu addysg bellach.

Pa fudd gaf i o hyn?

❚❚ Ennill lwfans.
❚❚ Cael gwyliau gyda thâl.
❚❚ Cael hyfforddiant penodol i’r swydd.
❚❚ Cael cymwysterau.

Prentisiaethau:

❚❚ Cyfleoedd cyffrous i astudio cymwysterau o Lefel 2 i Lefel 5.
❚❚ Ennill cyflog wrth gael cymwysterau penodol i’r swydd.

Rydym yn cynnig prentisiaethau ar hyn o bryd yn y canlynol:

❚❚ Rheoli ac Arwain Tîm.
❚❚ Gweinyddiaeth Busnes.
❚❚ Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid.
❚❚ rheoli prosiectau
❚❚ Gweithgynhyrchu Peirianyddol.
❚❚ Mecaneg.
❚❚ Warysau a Storio
❚❚ Lletygarwch (Bwyd a Diod)

Gweithio mewn partneriaeth â chynllun Rhannu Prentisiaeth Anelu’n Uchel Merthyr Tudful 

Mae’r Rhaglen Rhannu Prentisiaeth ANELU’N UCHEL  yn brosiect partneriaeth, ac yn rhan ohoni, caiff prentisiaid eu cyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, eu hyfforddi gan Y Coleg Merthyr Tudful gyda chwmnïau’n gofalu amdanynt am gyfnod y rhaglen brentisiaeth dwy neu dair blynedd.


“Bwriad y prosiect yw cryfhau datblygu sgiliau o fewn cwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianyddol i helpu cefnogi a datblygu twf busnes ac ar yr un pryd helpu mynd i’r afael â diweithdra a chynnig cyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol. 

Darganfyddwch ein hastudiaethau achos diweddaraf ar raglen Rhannu Prentisiaeth Aspire:

Thomas McKeown

Cai Jones

Ethan Williams 

Talia Lewis

Kian court

Os hoffech fwy o wybodaeth am brentisiaethau sydd ar gael neu os ydych am wneud cais am raglen brentisiaeth neu hyfforddeiaeth gyda ni, cysylltwch â Karen Rees: karen.rees@tydfil.com 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite