'Mae'r Coleg Merthyr Tudful wedi ymrwymo'n weithredol i greu amgylchedd dysgu a gwaith sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, sy'n gynhwysol ac yn dathlu amrywiaeth. Rydym yn ymdrechu i greu ymdeimlad o berthyn i'n dysgwyr, staff a rhanddeiliaid lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu parchu. Byddwn yn cydweithio â phartneriaid i greu amgylchedd lle mae pawb yn cael eu trin yn deg ac yn onest, waeth beth fo'u hoedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol. Mae ein hymrwymiad wedi'i ategu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 lle byddwn yn gefnogol ac yn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a'i gynrychioli."
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'n hymrwymiadau wedi'u datblygu yng nghyd-destun strategaeth 2030 Grŵp Prifysgol De Cymru.
Mae'r Cynllun yn ystyried yr holl nodweddion gwarchodedig; oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol ac fe'i datblygwyd yng nghyd-destun ein dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Wrth gydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb, rydym yn cael ein harwain gan ddeddfwriaeth, strategaeth ehangach Grŵp 2030, Colegau Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cydraddoldeb â phrofiadau dysgwyr, staff a rhanddeiliaid drwy lens groestoriadol.
Bydd y cynllun yn:
- bodloni anghenion a hawliau staff, myfyrwyr a rhanddeiliaid o grwpiau gwarchodedig;
- mynd i'r afael ag unrhyw anfantais a brofir gan fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr oherwydd eu nodweddion gwarchodedig;
- herio rhwystrau rhag cymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd Coleg i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid o grwpiau nodwedd gwarchodedig;
- meithrin cynwysoldeb a pharch i sicrhau bod cymuned y Coleg yn galluogi pobl i gydweithio a bod amrywiaeth yn cael ei ddathlu.