Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn annog staff yn gryf i ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn cynnig gwasanaeth Cymraeg i ddysgwyr, staff ac ymwelwyr ym mhob agwedd o ddarpariaethau a gwasanaethau’r coleg.
Mae’r coleg wedi ymrwymo i ddatblygu’r Gymraeg a chyfleu Safonau’r Gymraeg statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae Swyddog y Gymraeg a Chyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau yn y Coleg yn gyfrifol am fonitro ac adrodd am gydymffurfiaeth y Coleg gyda Safonau’r Gymraeg.
Mae manylion am wybodaeth allweddol a dogfennau am gydymffurfiaeth y coleg gyda’r Gymraeg i’w gweld isod:
Adroddiadau Blynyddol
Safonau Y Gymraeg
Canllaw Iaith - Language Guide (Bilingual)
Safonau’r Gymraeg, Canllaw Rheolwr - Cymraeg
Polisi ar ddefnyddio'r Gymraeg
Polisi ar Ddyfarnu Grantiau a Bwrsariaethau Ariannol
Bydd cwynion yn ymwneud â chydymffurfiaeth y coleg â Safonau’r Gymraeg yn cael eu cyfeirio’n awtomatig at Swyddog Iaith Gymraeg y coleg.
Os hoffech wneud cwyn am y gwasanaethau Cymraeg a gynigir gan y Coleg, mae croeso i chi ysgrifennu at:
Lynwen Harrington
Swyddog Iaith Gymraeg
Y Coleg Merthyr Tudful
Merthyr Tudful
CF48 1AR
Neu e-bostiwch Lynwen Harrington: l.harrington@merthyr.ac.uk
Bydd y coleg yn cofnodi eich cwyn ac yn dod yn ôl atoch o fewn 5 diwrnod gwaith i roi sylw i’ch cwyn.
Os bydd angen i ni archwilio’ch cwyn yn fwy manwl, byddwn yn ei throsglwyddo i’n tîm Cydymffurfio. Byddan nhw’n ei chofnodi ac yn cysylltu â chi i egluro’r camau nesaf.
I weld y polisi cwynion cliciwch yma
Dolenni Pwysig:
Hafan Comisiynydd y Gymraeg
https://www.welshlanguagecommissioner.wales/cymraeg.php
Am fwy o wybodaeth am y safonau, cysylltwch â Swyddog yr Iaith Gymraeg - Lynwen Harrington ar 01685 726000 estyniad 6331 neu e-bostiwch: l.harrington@merthyr.ac.uk