Os ydych am barhau i astudio, gwneud cais am swydd, dod o hyd i gyflogwyr lleol, dod o hyd i brofiad gwaith, dechrau prentisiaeth neu hyd yn oed sefydlu’ch busnes eich hun- rydym yma i helpu.
Mae ein Digwyddiad Gyrfaoedd blynyddol a’n Ffair Swyddi Gwag yn hyrwyddo cysylltiadau cadarn gyda chyflogwyr, prifysgolion, prentisiaethau a chyfleoedd gwaith i’n dysgwyr.