Eisiau dechrau eich busnes eich hun? Gallwn helpu!
Menter neu weithgaredd mentrus yw'r hyn yr ydym yn chwilio amdano mewn darpar entrepreneuriaid. Os ydych chi bob amser wedi breuddwydio am fod yn feistr ar eich gyrfa eich hun, dyma'r lle i ddechrau!
Ein cenhadaeth yn yr adran Fenter yw darganfod talent entrepreneuraidd yn y coleg, dod o hyd i entrepreneuriaid ifanc disglair o unrhyw oedran a lefel a'u meithrin. Mae menter ac entrepreneuriaeth wedi'u hymgorffori yn ein dull o addysgu yn TCMT. Mae tystiolaeth yn dangos bod myfyrwyr sy'n cael eu hannog i ddefnyddio menter a meddwl mewn ffyrdd mentrus yn fwy cyflogadwy pan fyddant yn gadael y coleg. Rydym yn cefnogi myfyrwyr yn rheolaidd i ddatblygu syniadau yn gynlluniau busnes hyfyw. P'un ai ar gyfer mentoriaeth busnes un-i-un neu ar gyfer sgwrs anffurfiol am gysyniad busnes, rydym bob amser wrth law i gynnig cyngor ac offer ymarferol i wireddu eich breuddwyd.
Os hoffech gael help gyda'ch syniad busnes cysylltwch â ni heddiw! E-bostiwch Chris Bissex-Foster ar c.bissex@merthyr.ac.uk / Verity Jones ar v.jones@merthyr.ac.uk neu galwch heibio i'r dderbynfa a gofynnwch amdanom!