Gwibio i'r prif gynnwys

Dewis chwaraewr Academi Bêl-droed y Coleg i gynrychioli Colegau Cymru

Mae'n bleser gan y coleg gyhoeddi bod ein chwaraewr academi bêl-droed a'n dysgwr BTEC Peirianneg Josh Jones wedi cael ei ddewis ar gyfer carfan dan 19 Colegau Cymru yn erbyn Ysgolion Lloegr ddydd Mercher 15fed Rhagfyr. Cafodd Josh, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, ei ddewis ar ôl treial Coleg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn y Drenewydd ym mis Tachwedd.   

Wrth sôn am ei gyflawniad, dywedodd Josh "Rwy'n falch iawn o gael fy newis i gynrychioli'r coleg a Chymru yn y gêm yn erbyn ysgolion Lloegr. Pêl-droed yw fy angerdd a hoffwn ddiolch i'r holl staff a hyfforddwyr yn y coleg am fy nghefnogi a'm helpu i ddatblygu fel chwaraewr dros y ddwy flynedd ddiwethaf."

Dywedodd Hyfforddwr Pêl-droed Academi Chwaraeon Merthyr, David Haggett, "Mae hwn yn gyflawniad ardderchog i Josh ac rydym yn hynod falch ohono.  Mae wedi arddangos lefel wych o sgiliau, gwaith tîm a brwdfrydedd drwy gydol ei amser yn chwarae yn ein academi ac rydym yn dymuno pob lwc iddo yn y gêm."

 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite