Mae'n bleser gan y coleg gyhoeddi bod ein chwaraewr academi bêl-droed a'n dysgwr BTEC Peirianneg Josh Jones wedi cael ei ddewis ar gyfer carfan dan 19 Colegau Cymru yn erbyn Ysgolion Lloegr ddydd Mercher 15fed Rhagfyr. Cafodd Josh, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, ei ddewis ar ôl treial Coleg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn y Drenewydd ym mis Tachwedd.
Wrth sôn am ei gyflawniad, dywedodd Josh "Rwy'n falch iawn o gael fy newis i gynrychioli'r coleg a Chymru yn y gêm yn erbyn ysgolion Lloegr. Pêl-droed yw fy angerdd a hoffwn ddiolch i'r holl staff a hyfforddwyr yn y coleg am fy nghefnogi a'm helpu i ddatblygu fel chwaraewr dros y ddwy flynedd ddiwethaf."
Dywedodd Hyfforddwr Pêl-droed Academi Chwaraeon Merthyr, David Haggett, "Mae hwn yn gyflawniad ardderchog i Josh ac rydym yn hynod falch ohono. Mae wedi arddangos lefel wych o sgiliau, gwaith tîm a brwdfrydedd drwy gydol ei amser yn chwarae yn ein academi ac rydym yn dymuno pob lwc iddo yn y gêm."