Yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau safon prifysgol, y cyfan ar eich stepen drws!
Ystyried astudio cymhwyster safon prifysgol mis Medi yma? Fu erioed amser gwell na nawr i ddewis Y Coleg Merthyr Tudful.
Os ydych ar fin gorffen eich lefel A neu gymhwyster galwedigaethol lefel 3, yn gobeithio cryfhau eich sgiliau neu gymwysterau neu’n chwilio am yrfa wahanol, gallwn ni gynnig y cyfle i gael cymhwyster safon prifysgol yn eich coleg lleol – gan eich helpu i aros yn agos i gartref ac i drefnu’ch astudiaethau o gwmpas gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill.
Gydag amrywiaeth gyflawn o gyrsiau – o Gelf a Dylunio a Ffotograffiaeth i Fusnes, Cyfrifyddiaeth, Cyfrifiadura, Chwaraeon, Astudiaethau Gofal a Phlant, mae gennym rywbeth i bawb. Ar ben hynny, mae ein dosbarthiadau bach o ran nifer, ansawdd uchel, staff profiadol a chymorth eithriadol yn fwriad i sicrhau fod yr holl ddysgwyr yn cael y profiad dysgu gorau posib i’w galluogi i wireddu eu holl botensial.