Mae'r Coleg Merthyr Tudful wedi ymuno mewn partneriaeth â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i fod y coleg addysg bellach cyntaf i gynnig cynllun Cadetiaid Nyrsio Coleg Brenhinol Tywysog Cymru i ddysgwyr coleg sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn nyrsio neu broffesiynau eraill yn y GIG.
Nod y cynllun yw ysbrydoli pobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndir anfanteision, i weithio ym maes iechyd a gofal drwy roi mynediad iddyn nhw at gyfleoedd ar gyfer astudio academaidd a phrofiad ymarferol yn y sector nyrsio ac iechyd.
Gan gyfuno 105 awr o ddysgu tywys a thrwy brofiad gyda 20 awr o leoliadau arsylwi clinigol, bydd y cynllun yn caniatáu i ddysgwyr sy'n astudio ar ein cyrsiau Iechyd a Gofal a Mynediad, gyfle i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol y diwydiant a phrofi'n uniongyrchol sut brofiad fyddai gweithio yn y proffesiwn hwn.
Wrth sôn am y bartneriaeth, dywedodd Helen Hare, Rheolwr y Prosiect "Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio gyda'r Coleg, Merthyr Tudful, i gyflawni'r cynllun hwn mewn lleoliad addysg. Dyma tir newydd i ni gan ein bod wedi gweithio gyda mudiadau lifrau ac ieuenctid yn y gorffennol. Cefais fy syfrdanu gan frwdfrydedd y dysgwyr yn y coleg sydd am gymryd rhan.
Mae yna brinder pobl ifanc yn mynd i'r sector gofal a phroffesiynau ar draws Cymru ac rydyn ni'n wir obeithio y bydd y cynllun hwn yn helpu i fynd i'r afael â hyn."
Cyfarfu Helen a chyd-weithwyr yr RCN â nifer o'r dysgwyr a fydd yn ymuno â'r cynllun ddechrau mis Hydref. Dywedodd Imogen, sydd wrthi'n astudio ar gwrs lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol y coleg, "Rwy'n hapus iawn i gael y cyfle i ymuno â'r cynllun hwn. Hoffwn fynd i yrfa mewn Nyrsio Iechyd Meddwl, felly gobeithio bydd y profiad a'r wybodaeth y gallaf ei gael o gymryd rhan yn fy helpu i sefyll allan yn fy nghais i brifysgol."
Bydd y cynllun, sy'n cael ei gefnogi gan Dywysog Cymru, yn dechrau yn Hydref 2022 gyda dysgwyr yn ymgymryd â'r modiwlau addysgol rhwng Hydref a Chwefror ac yna'n gwneud eu lleoliadau o fis Chwefror ymlaen.
Yna bydd cadetiaid sy'n cwblhau'r cynllun yn dod yn llysgenhadon ar gyfer y rhaglen wrth symud ymlaen.
Dywedodd Rebecca Thomas, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y coleg, "Mae nyrsio yn gofyn am ymroddiad ac ymdeimlad cryf o wasanaeth cyhoeddus, ond mae'n cynnig cyfleoedd anferth i bobl wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn falch iawn o roi cyfle i'n dysgwyr gael blas o beth yw pwrpas y proffesiwn a hefyd beth y gall ei roi iddynt yn ôl."