Dros yr wythnosau diwethaf, mae ein myfyrwyr lefel 1 a 2 Gwallt a Harddwch wedi dangos eu sgiliau anhygoel i'r beirniaid yn ystod cystadleuaeth ddylunio. Cymerodd dros 25 o fyfyrwyr o bob lefel ran yn y gystadleuaeth gyda'r nod o greu golwg i gydlynu gwisgoedd a cholur yn seiliedig ar thema ffantasi a dyfodol.
Lefel 1
Bu ein dysgwyr lefel 1 yn ymchwilio i fyd ffantasi ac yn ail-greu rhai o gymeriadau llenyddol enwocaf y byd.
Dywedodd y tiwtor Nicola Thomas "Roedd lefel y gystadleuaeth eleni yn eithriadol, a gweithiodd ein dysgwyr yn galed iawn, sy'n amlwg yn y dyluniau gwych a gynhyrchwyd. Rwy'n falch iawn ohonynt i gyd"
Dyfarnwyd tystysgrif gwobr 1af i Caitlin Cross am ei delwedd gwallt a harddwch a ysbrydolwyd gan y ‘Mad Hatter.’ Ail-greodd Caitlin Cross, a fu'n astudio yn ysgol Uwchradd Pen Y Dre yn flaenorol, y cymeriad eiconig o lyfr enwog Lewis Carroll ‘Alice in Wonderland.’
Caitlin Cross gyda’i thystysgrif gwobr 1af.
Dyfarnwyd 2il le i Emily-Mai Lewis, cyn ddisgybl Ysgol Gyfan Rhydywaun, am ei ‘Maleficent’
Dyfarnwyd 3ydd lle i Tia Price, cyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, am ei chynllun ‘Day Of The Dead’
Lefel 2
Cafodd ein dysgwyr lefel 2 y dasg o greu delwedd gwallt a harddwch dyfodolol. Dyfarnwyd y lle cyntaf i Jade Morris, cyn ddisgybl St John Baptist, am ei chymeriad o The Hunger Games, Effie Trinket.
Dywedodd Jade Morris "Cefais fy ysbrydoliaeth gan Effie Trinket o The Hunger Games gan fod ei golwg bob amser mor afradlon. Hoffwn ddiolch yn fawr i'm model Claire am fod yn fodel gwych ar gyfer fy nghynllun. Hoffwn ddiolch hefyd i fy nheulu am fod yn gefnogol i mi yn y cyfnod cyn y gystadleuaeth gan gynnwys fy mam Diane Morris.
Alla i ddim aros am yr un nesaf ym mis Mai! "
Jade Morris, a enillodd y wobr gyntaf am ei chynllun dyfodolol.
Tiana Andrews, cyn ddisgybl Ysgol Afon Taf, enillodd 2il wobr
Lara Silva, enillodd 3ydd lle.
Dywedodd Bennaeth Gwallt a Harddwch, Amanda Wilde, "Hoffwn longyfarch pob un o'r myfyrwyr. Mae lefel y creadigrwydd a'r ymdrech sydd wedi mynd i mewn i'r dyluniadau hyn yn amlwg ac mae'n dyst i waith caled y myfyrwyr a'r tiwtoriaid"