Gwibio i'r prif gynnwys

Cystadleuaeth Dylunio Gwallt a Harddwch Lefel 1 a 2

Dros yr wythnosau diwethaf, mae ein myfyrwyr lefel 1 a 2 Gwallt a Harddwch wedi dangos eu sgiliau anhygoel i'r beirniaid yn ystod cystadleuaeth ddylunio.  Cymerodd dros 25 o fyfyrwyr o bob lefel ran yn y gystadleuaeth gyda'r nod o greu golwg i gydlynu gwisgoedd a cholur yn seiliedig ar thema ffantasi a dyfodol.

Lefel 1

Bu ein dysgwyr lefel 1 yn ymchwilio i fyd ffantasi ac yn ail-greu rhai o gymeriadau llenyddol enwocaf y byd.

Dywedodd y tiwtor Nicola Thomas "Roedd lefel y gystadleuaeth eleni yn eithriadol, a gweithiodd ein dysgwyr yn galed iawn, sy'n amlwg yn y dyluniau gwych a gynhyrchwyd. Rwy'n falch iawn ohonynt i gyd"

Dyfarnwyd tystysgrif gwobr 1af i Caitlin Cross am ei delwedd gwallt a harddwch a ysbrydolwyd gan y ‘Mad Hatter.’ Ail-greodd Caitlin Cross, a fu'n astudio yn ysgol Uwchradd Pen Y Dre yn flaenorol, y cymeriad eiconig o lyfr enwog Lewis Carroll ‘Alice in Wonderland.’

 

Caitlin Cross gyda’i thystysgrif gwobr 1af.

 

Dyfarnwyd 2il le i Emily-Mai Lewis, cyn ddisgybl Ysgol Gyfan Rhydywaun, am ei ‘Maleficent’

Dyfarnwyd 3ydd lle i Tia Price, cyn ddisgybl Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, am ei chynllun ‘Day Of The Dead’

Lefel 2

 

Cafodd ein dysgwyr lefel 2 y dasg o greu delwedd gwallt a harddwch dyfodolol.  Dyfarnwyd y lle cyntaf i Jade Morris, cyn ddisgybl St John Baptist, am ei chymeriad o The Hunger Games, Effie Trinket.

 

Dywedodd Jade Morris "Cefais fy ysbrydoliaeth gan Effie Trinket o The Hunger Games gan fod ei golwg bob amser mor afradlon. Hoffwn ddiolch yn fawr i'm model Claire am fod yn fodel gwych ar gyfer fy nghynllun. Hoffwn ddiolch hefyd i fy nheulu am fod yn gefnogol i mi yn y cyfnod cyn y gystadleuaeth gan gynnwys fy mam Diane Morris.

Alla i ddim aros am yr un nesaf ym mis Mai! "

 

Jade Morris, a enillodd y wobr gyntaf am ei chynllun dyfodolol.

Tiana Andrews, cyn ddisgybl Ysgol Afon Taf, enillodd 2il wobr

Lara Silva, enillodd 3ydd lle.

Dywedodd Bennaeth Gwallt a Harddwch, Amanda Wilde, "Hoffwn longyfarch pob un o'r myfyrwyr.   Mae lefel y creadigrwydd a'r ymdrech sydd wedi mynd i mewn i'r dyluniadau hyn yn amlwg ac mae'n dyst i waith caled y myfyrwyr a'r tiwtoriaid"

 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite