Gwibio i'r prif gynnwys

Keira Evans yn cynrychioli Coleg Merthyr Tudful yng Nghystadleuaeth WorldSkills UK

Mae Keira Evans, dysgwr Paentio ac Addurno yn y Coleg Merthyr Tudful, heno, yn dathlu cystadlu yng nghystadleuaeth paentio ac addurno WorldSkillsUK.

Mae hyn yn gyflawniad aruthrol i Keira a ddechreuodd ei hastudiaethau ar ein cwrs paentio ac addurno City &Guilds lefel 1 cyn symud ymlaen yn llwyddiannus i lefel 2 ac yn awr ymlaen i lefel 3.

Gweithiodd Keira, un o gyn-ddisgyblion Afon Taf, yn eithriadol o galed i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth a chynhyrchodd waith gwych dros y 3 diwrnod. Mae'r anrhydedd hwn yn un o lawer i'w ychwanegu at gyflawniadau eithriadol Keira dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sy'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, ennill ‘Stretch Test Painting & Decorating WorldSkillUk!’

Roedd cystadleuaeth WorldSkillUK yn cynnwys 400 o fyfyrwyr a phrentisiaid o 64 o sgiliau gwahanol yn brwydro mewn 22 o leoliadau sy'n cwmpasu holl wledydd y DU, yn eu hymgais i gael eu henwi'n bencampwyr ac enillwyr Medalau Aur, Arian ac Efydd. Mae cystadlu ar y lefel hon o'r gystadleuaeth yn dangos nid yn unig allu a sgiliau paentio ac addurno Keira ond hefyd y gwaith caled a'r penderfyniad sydd ganddi i fod y paentwraig orau posibl.

Dywedodd Christine Bissex, Cydlynydd Worldskills yn y coleg, "Mae llwyddiant Keira yn dangos y cyflawniadau sy'n bosibl i'n holl ddysgwyr ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi mwy o'n dysgwyr i gofrestru a chystadlu mewn cystadlaethau sgiliau dros y misoedd nesaf."

Dywedodd Keira 'Hoffwn ddiolch i'r coleg a'm tiwtoriaid am yr amser a'r ymdrech y maent wedi'i roi i mi. Mae hyn wedi fy ngalluogi i arddangos fy sgiliau a'm cynnydd i rowndiau terfynol y DU. Mae hyn yn gyflawniad enfawr i mi ac mae'r profiad wedi rhoi'r hunanhyder i mi ddechrau fy musnes fy hun."

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite