Mae Keira Evans, dysgwr Paentio ac Addurno yn y Coleg Merthyr Tudful, heno, yn dathlu cystadlu yng nghystadleuaeth paentio ac addurno WorldSkillsUK.
Mae hyn yn gyflawniad aruthrol i Keira a ddechreuodd ei hastudiaethau ar ein cwrs paentio ac addurno City &Guilds lefel 1 cyn symud ymlaen yn llwyddiannus i lefel 2 ac yn awr ymlaen i lefel 3.
Gweithiodd Keira, un o gyn-ddisgyblion Afon Taf, yn eithriadol o galed i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth a chynhyrchodd waith gwych dros y 3 diwrnod. Mae'r anrhydedd hwn yn un o lawer i'w ychwanegu at gyflawniadau eithriadol Keira dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sy'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, ennill ‘Stretch Test Painting & Decorating WorldSkillUk!’
Roedd cystadleuaeth WorldSkillUK yn cynnwys 400 o fyfyrwyr a phrentisiaid o 64 o sgiliau gwahanol yn brwydro mewn 22 o leoliadau sy'n cwmpasu holl wledydd y DU, yn eu hymgais i gael eu henwi'n bencampwyr ac enillwyr Medalau Aur, Arian ac Efydd. Mae cystadlu ar y lefel hon o'r gystadleuaeth yn dangos nid yn unig allu a sgiliau paentio ac addurno Keira ond hefyd y gwaith caled a'r penderfyniad sydd ganddi i fod y paentwraig orau posibl.
Dywedodd Christine Bissex, Cydlynydd Worldskills yn y coleg, "Mae llwyddiant Keira yn dangos y cyflawniadau sy'n bosibl i'n holl ddysgwyr ac rwy'n edrych ymlaen at gefnogi mwy o'n dysgwyr i gofrestru a chystadlu mewn cystadlaethau sgiliau dros y misoedd nesaf."
Dywedodd Keira 'Hoffwn ddiolch i'r coleg a'm tiwtoriaid am yr amser a'r ymdrech y maent wedi'i roi i mi. Mae hyn wedi fy ngalluogi i arddangos fy sgiliau a'm cynnydd i rowndiau terfynol y DU. Mae hyn yn gyflawniad enfawr i mi ac mae'r profiad wedi rhoi'r hunanhyder i mi ddechrau fy musnes fy hun."