Mae gan ein hadran Adeiladu enw rhagorol am ddarparu cyrsiau adeiladu o ansawdd uchel a gydnabyddir gan y diwydiant.
Mae ein myfyrwyr nid yn unig yn elwa o’n gweithdai a’n cyfleusterau adeiladu pwrpasol, ond rydym hefyd yn darparu cyfleoedd profiad gwaith cenedlaethol a rhyngwladol rhagorol, gan alluogi ein myfyrwyr i’n gadael gydag amrywiaeth o gymwysterau a sgiliau i’w helpu i sefyll allan o’r dorf. Felly, os ydych chi eisiau gyrfa yn y diwydiant adeiladu, bydd ein cyrsiau yn rhoi’r sgiliau a’r profiad i chi adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer eich dyfodol.