Yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau safon prifysgol, i gyd ar eich stepen drws!
Ystyried astudio cymhwyster safon prifysgol mis Medi yma? Ni fu amser gwell i ddewis Y Coleg Merthyr Tudful.
Os ydych newydd orffen eich lefel A neu gymhwyster galwedigaethol lefel 3, eisiau cryfhau eich sgiliau neu gymwysterau neu’n chwilio am newid yn eich gyrfa, rydym yn cynnig cyfle i gael cymhwyster o safon prifysgol yn eich coleg lleol – gan roi help i chi aros yn agos at adref ac addasu eich astudiaethau o gwmpas eich gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill.
Gydag amrywiaeth eang o gyrsiau – o Gelf a Dylunio i Fusnes, Cyfrifyddiaeth, Cyfrifiadura, Chwaraeon, Gofal ac Astudiaethau Plentyndod, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb. Ar ben hynny, nod ein dosbarthiadau bach, staff profiadol o safon uchel a chymorth rhagorol yw sicrhau y bydd pob dysgwr yn cael y profiad dysgu
gorau oll er mwyn iddynt allu gwireddu eu potensial eithaf.
Mae ein canlyniadau yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn tystio i hyn gyda thros 86% o ddysgwyr yn datgan eu bod yn fodlon gyda’u profiad ar eu cwrs addysg uwch yn ystod 2019-2020. Hefyd, llwyddwyd i gael boddhad cyffredinol o 100% gyda’n cyrsiau Astudiaethau Plentyndod a Seicoleg.
Mae gennym gysylltiadau partneriaeth cryf gyda Phrifysgol De Cymru, gan roi cyfle i bob dysgwr ddefnyddio adnoddau dysgu a chyfleusterau’r brifysgol gyda’r dewis o fynd ymlaen i drydedd flwyddyn atodol i gael Gradd Baglor, os ydynt yn dymuno. Yn ogystal, mae’r coleg hefyd yn cynnig y Radd Fusnes a’r Radd Ymarfer Celf BA Anrh Atodol, gan roi’r dewis i ddysgwyr sy’n astudio’r cyrsiau Gradd Sylfaen yn y meysydd hyn gyda’r dewis i gwblhau’r rhaglen radd lawn dair blynedd ac ennill Gradd BA Anrh.
Gwnaeth y dysgwr Hannah Casey gwblhau ei Gradd BA Anrh ym mis Mehefin 2019. Meddai Hannah “Roeddwn wastad wedi bod eisiau mynd i brifysgol ond wnes i ddim meddwl y byddai’n bosibl heb gymwysterau lefel A. Ar ôl gorffen fy TGAU yn yr ysgol, fe wnes i gofrestru yn y coleg ar gwrs lefel 2 Gweinyddiaeth Busnes. Ar ôl gorffen y cwrs hwnnw, es ymlaen i’r cwrs lefel 3. Gyda help a chymorth fy nhiwtoriaid, dechreuais sylweddoli fod opsiynau a llwybrau ar gael i mi gael cymhwyster prifysgol drwy astudio Gradd Sylfaen mewn Busnes. Ar ôl gorffen y Radd Sylfaen mewn Busnes, rwyf newydd orffen y flwyddyn olaf o astudio ar y cwrs Gradd BA Anrh Atodol. Mae’r staff yn y coleg yn anhygoel ac yn help gwirioneddol i gyrraedd eich nod, gyda help a chymorth un i un ar gael. Alla i ddim diolch digon i’r staff yma yn y coleg am fy helpu i orffen y radd, a byddwn yn cefnogi unrhyw un yn eu penderfyniad i astudio’r cwrs yma gan ei fod wedi agor cymaint o ddrysau i mi.”
Gydag amrywiaeth o grantiau, benthyciadau a bwrsarïau ar gael i helpu gyda ffioedd cwrs
a chostau byw, gallai astudio hefyd gostio llai na fyddech yn tybio.
Am fwy o wybodaeth ewch i’n Tudalen Agored Rithiol Addysg Uwch 24/7 i gael yr holl wybodaeth rydych ei
angen am y cyrsiau a’r cymorth sydd ar gael yn y coleg.
Gadewch i’r Coleg Merthyr Tudful eich helpu i gymryd y cam nesaf hwnnw tuag at uchelgais eich gyrfa yn y dyfodol.
Cliciwch yma i fynd i’r dudalen: