Mae astudio Lefel A Daearyddiaeth yn annog dysgwyr i gymhwyso gwybodaeth ddaearyddol, theori a sgiliau i'r byd o'u cwmpas. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o bobl, lleoedd ac amgylcheddau'r byd yn yr 21ain Ganrif. Cryfder Daearyddiaeth yw ei ehangder, bydd y dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau daearyddol cyfoes ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy.
Arholiad 80% ac 20% ymchwiliad annibynnol
Mae'r cwrs yn defnyddio daearyddiaeth ffisegol a dynol, yn archwilio rhyngweithiadau rhwng pobl a'r amgylchedd ac yn annog datblygu gwaith maes ar lefel leol i alluogi dysgwyr i ofyn cwestiynau ymholi.
Arholiad 80% ac 20% ymchwiliad annibynnol
.Mae cyfran dda o fyfyrwyr yn parhau i astudio daearyddiaeth ar lefel gradd, gyda chyrchfannau diweddar yn Abertawe a PDC. Mae nifer hyd yn oed yn fwy yn defnyddio eu Daearyddiaeth fel pwnc hwyluso sy'n eu galluogi i wneud cais am ystod eang o gyrsiau megis cymdeithaseg, y gyfraith, bioleg a nyrsio/meddygaeth.
04 Medi 2023 - 31 Gorffennaf 2024