Mae astudio Lefel A Daearyddiaeth yn annog dysgwyr i gymhwyso gwybodaeth ddaearyddol, theori a sgiliau i'r byd o'u cwmpas. Bydd hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o bobl, lleoedd ac amgylcheddau'r byd yn yr 21ain Ganrif. Cryfder Daearyddiaeth yw ei ehangder, bydd y dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniadau daearyddol cyfoes ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy.
5 TGAU graddau A*-C gan gynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Mae TGAU Daearyddiaeth yn ddymunol ond nid yn hanfodol, fodd bynnag, mae hyn yn ôl disgresiwn y tiwtor. Os yw TGAU Daearyddiaeth wedi'i astudio ar lefel TGAU gradd C neu uwch mae angen gradd C.
Mae'r cwrs yn defnyddio daearyddiaeth ffisegol a dynol, yn archwilio rhyngweithiadau rhwng pobl a'r amgylchedd ac yn annog datblygu gwaith maes ar lefel leol i alluogi dysgwyr i ofyn cwestiynau ymholi.
Arholiad 80% ac 20% ymchwiliad annibynnol
Mae cyfran dda o fyfyrwyr yn parhau i astudio daearyddiaeth ar lefel gradd, gyda chyrchfannau diweddar yn Abertawe a PDC. Mae nifer hyd yn oed yn fwy yn defnyddio eu Daearyddiaeth fel pwnc hwyluso sy'n eu galluogi i wneud cais am ystod eang o gyrsiau megis cymdeithaseg, y gyfraith, bioleg a nyrsio/meddygaeth.
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026