Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu at ddysgwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa yn y sector Gofal. Mae'n cynnig y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithio gydag unigolion mewn amrywiaeth o swyddi mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, megis nyrsio, bydwreigiaeth, gwaith cymdeithasol, rheolaeth breswyl, tai, a'r gwasanaeth prawf ac mae'n gyfwerth â 3 Safon Uwch.
Mae mynediad i'r cwrs hwn drwy gyfweliad ac mae angen o leiaf 5 TGAU A*- C gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth yng nghyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n cynnwys y materion cyfredol canlynol mewn perthynas ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: • egwyddorion gofal ac arfer diogel o fewn gofal sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau • ffactorau sy'n effeithio ar dwf a datblygiad unigolion ar hyd oes a sut mae hyn yn effeithio ar ganlyniadau, anghenion gofal a chymorth • hyrwyddo hawliau unigolion drwy gydol oes • cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni eu canlyniadau dymunol • gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Fe'i hasesir drwy gyfuniad o asesiadau ysgrifenedig allanol, arholiadau ysgrifenedig wedi'u gosod a'u marcio'n allanol a thasgau a asesir yn fewnol.
Gallai dysgwyr sy'n cwblhau'r cymhwyster hwn symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch mewn meysydd gan gynnwys: • Bydwreigiaeth. • Astudiaethau'r heddlu. • Therapi lleferydd ac iaith. • Seicoleg. • Iechyd galwedigaethol. • Gwaith cymdeithasol. • Nyrsio
01 Awst 2025 - 31 Gorffennaf 2026