Yn y Coleg rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a chynhwysol i'n dysgwyr a'n gwerthoedd yw bod yn broffesiynol, ysbrydoledig, cydweithredol a chefnogol. Mae holl staff y coleg yn gweithio'n agos i greu'r diwylliant hwn ac i rymuso a chefnogi ein dysgwyr.
Mae ein Canolfan Lles wedi'i lleoli ar y llawr cyntaf ac mae'n darparu system gymorth gydweithredol i bob dysgwr. Mae ein tîm yn cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar bob agwedd ar lesiant, gan gynnwys diogelu, a lles emosiynol, ochr yn ochr â mewnbynnau therapiwtig sy'n ffurfio'r gwasanaethau Ymarferydd Nyrsio, Cwnselydd a Gaplaniaeth.
Os oes unrhyw ymholiadau am gymorth lles, gall dysgwyr alw heibio i'r ganolfan les neu e-bostio T_wellbeing@merthyr.ac.uk. Gall dysgwyr hefyd atgyfeirio am gymorth ar system OnTrack y coleg.