Mae eich llesiant o’r pwys pennaf i ni; mae gennym Swyddog Diogelu a Llesiant a fydd yn cydweithio â chi ac yn rhoi cymorth i chi os ydych o dan 18 oed neu’n ddysgwr hŷn.
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau blaenllaw i hyrwyddo ein coleg fel cymuned ddysgu ddiogel am ein bod yn teimlo na ddylech fyth deimlo loes neu gael eich cam-drin gan bobl eraill. Er hynny, os ydych yn bryderus ynghylch unrhyw ffurf o gam-drin (e.e. corfforol, rhywiol, emosiynol, esgeulustod neu wahaniaethu mewn unrhyw ffurf) yna byddwch cystal â siarad â’r Swyddog Diogelu a Llesiant.
Os oes gennych Weithiwr Cymdeithasol neu unrhyw wasanaethau cymorth eraill yn cydweithio â chi ar hyn o bryd, byddwch cystal â chysylltu â’n Swyddog Diogelu a Llesiant sy’n gallu trefnu i fynychu cyfarfodydd amlasiantaeth y tu allan neu oddi mewn i’r coleg.
Fe’ch anogir i gyfrannu i agendâu llesiant a chydraddoldeb y coleg drwy Gynulliad y Dysgwyr a grwpiau cydraddoldeb y coleg. Rydym am i chi fod yn hapus tra byddwch yn astudio yn y coleg, os ydych yn poeni neu’n bryderus am unrhyw beth yn ymwneud â’ch diogelwch neu’ch llesiant, rhowch wybod i ni.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Cliciwch yma i ddarllen ein Ein Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion Agored i Niwed Polisi