Mae’r coleg wedi ymrwymo i gydweithio’n agos gyda chyflogwyr ac rydym yn falch o’r rhwydweithiau a’r partneriaethau rydym wedi’u sefydlu ledled ein rhanbarth lleol.
Ein gwaith ni yw gwneud ein dysgwyr yn gyflogadwy, gan sicrhau y byddant yn gallu gwneud cyfraniad effeithiol pan fyddant yn y byd gwaith. Felly mae’n bwysig i ni ein bod yn deall eich anghenion, a sicrhau fod y rhaglenni, y sgiliau a’r cymwysterau rydym yn eu cynnig yn ateb y gofynion hyn er mwyn i ni gryfhau sgiliau cyflogadwyedd dysgwyr a’u dilyniant ymlaen i gyflogaeth neu brentisiaeth.
Yn ogystal, mae’n bwysig i ni ein bod yn gallu cynnig i chi y sgiliau, hyfforddiant a chyrsiau addas a pherthnasol i’ch galluogi i ddatblygu eich gweithlu, pa un ai drwy raglenni pwrpasol, prentisiaethau, cyrsiau proffesiynol, Cyfrifon Dysgu Personol, cyrsiau rhan amser neu Uwchsgilio@waith.
Am fwy o wybodaeth am sut y gallwn eich helpu neu am sut y gallwch chi ymwneud â datblygu cwricwlwm neu brofiad gwaith neu ganllawiau yn y coleg, cliciwch y dolenni isod neu cysylltwch â’n Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau, Leanne Jones: l.jones3@merthyr.ac.uk