SETUP
Wrth weithio mewn partneriaeth ag ‘Active Merthyr Tudful’, mae'r rhaglen yn darparu rhaglen addysg a hyfforddiant unigryw ac effeithiol o hyfforddi. Gall dysgwyr gyflawni eu dyheadau academaidd, gan eu helpu i symud ymlaen yn llwyddiannus i fyd gwaith, prentisiaeth neu astudiaeth lefel uwch ym maes Chwaraeon a Hamdden Actif.
Mae'r rhaglen, sef y cyntaf o'i math yn y rhanbarth lleol, yn darparu llinyn 'cyflogadwyedd' newydd sbon i gwrs Hyfforddi Chwaraeon BTEC Lefel 3 presennol y coleg. Mae'n rhoi'r gwerth a'r gefnogaeth ychwanegol sydd ei hangen ar ein dysgwyr i'w helpu i sefyll allan a sicrhau cyflogaeth neu le prifysgol yn y dyfodol.
Ein tri llinyn allweddol:
Mae'r rhaglen yn rhoi pwyslais ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r diwydiant chwaraeon a'r sector drwy ddarlithoedd, sgyrsiau gwadd, ymweliadau, lleoliadau a gweithdai.
Caiff ein dysgwyr gyfle i ymgymryd â lleoliadau cymunedol o ansawdd uchel drwy rwydwaith darparwyr ‘Active Merthyr Tudful’, gan roi'r cyfle iddynt roi ar waith, y theori, yr wybodaeth a'r sgiliau y maent yn eu hennill yn yr ystafell ddosbarth, ac ar yr un pryd ehangu eu dealltwriaeth o'r gyrfaoedd sydd ar gael yn y sector hwn.
Bydd dysgwyr SETUP yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau a fydd yn caniatáu iddynt nid yn unig ennill cymwysterau a phrofiad, ond i helpu i lywio eu dyfodol. Mae'r rhain yn cynnwys ‘Active Merthyr Tudful’, ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, grwpiau chwaraeon cymunedol, campfeydd lleol a chyrff llywodraethu cenedlaethol.
Bydd dysgwyr hefyd yn cael y cyfle i ymgymryd â chymwysterau ychwanegol sy'n ategu ac ychwanegu at eu cymhwyster BTEC lefel 3, gan gynnwys Arweinwyr Chwaraeon, Cymorth Cyntaf, Diogelu, Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd, Llythrennedd Corfforol, Arweinwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Arweinwyr Tag URC a llawer mwy.
Astudiaeth Achos Erin McNulty
Derbyniodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley, Erin ganlyniadau galwedigaethol eithriadol, gan gyflawni Rhagoriaeth yn ei chwrs Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon Diploma Cenedlaethol BTEC L3. "Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf am fy nghwrs yw'r cyfleoedd y mae wedi'u darparu i mi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Rwyf wedi cwblhau amrywiaeth o gymwysterau ychwanegol fel First Aid a gwahanol Wobrau Hyfforddi Chwaraeon. Byddwn i'n dweud bod y rhaglen ‘SETUP’ newydd sy'n ymwneud â fy nghwrs yn y coleg wedi fy helpu i fagu llawer o hunan-hyder, yn ogystal â lleoliadau a phrofiad.
Dyma beth sydd gan Dan Bufton, Rheolwr Datblygu Chwaraeon i Active Merthyr Tudful, i'w ddweud am ein prosiect ar y cyd ‘SETUP’.