Bwriad y dudalen hon yw cynnig yr holl wybodaeth fyddwch ei angen i gefnogi eich cais a’ch cyfnod pontio i’r coleg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni ar admissions@merthyr.ac.uk neu ffoniwch 01685 726012
Mae gennym Dîm Derbyniadau cyfeillgar, gwybodus a phrofiadol sydd yma i sicrhau bod pob dysgwr unigol sy’n chwilio am le yn y coleg yn cydweddu â rhaglen neu gwrs astudio sy’n eu galluogi i gyflawni’r gorau posib ac i symud ymlaen i gyrchfan o’u dewis.
O’r ymholiad cyntaf hyd at gofrestru a chynefino, mae’r tîm yma i wneud y canlynol:
I gysylltu â’r tîm, e-bostiwch admissions@merthyr.ac.uk neu ffoniwch 01685 726012
Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais, gallwch wneud cais am gwrs naill ai drwy wneud y canlynol:
1. Mynd ar ein Gwefan www.merthyr.ac.uk a chlicio’r botwm gwneud cais nawr ar y cwrs o’ch dewis
I gael canllawiau manwl ar sut i gwblhau’r broses gwneud cais ar-lein, cliciwch yma.
Ar ddiwedd y broses gwneud cais, cewch eich cyfarwyddo i ddilyn dolen i lanw Sgriniwr WEST (dolen yma)
I gael canllawiau manwl ar sut i lanw sgriniwr WEST, cliciwch yma
Beth os wyf yn ansicr ynglŷn â pha gwrs i’w astudio?
Os ydych yn parhau’n ansicr ynglŷn â pha gwrs ydych am wneud cais amdano, edrychwch ar ein tudalen Diwrnod Agored Rhithiol 24/7 yma neu cysylltwch â’n tîm o gynghorwyr derbyniadau a all gynnig cyngor rhithiol, dros y ffôn neu drwy e-bost am yr amrywiaeth gyfan o gyrsiau a llwybrau sydd ar gael i chi.
Os ydych yn ystyried gwneud cais am gwrs addysg uwch gyda ni, ewch i’n tudalen bwrpasol Digwyddiad Agored Rhithiol AU yma
Os ydych eisoes wedi gwneud cais i astudio cwrs gyda ni ac wedi derbyn cynnig amodol neu ddiamod, byddwch yn derbyn llythyr ac e-bost yn eich hysbysu am y broses gofrestru.
Os mai newydd wneud cais ydych chi, peidiwch da chi â phoeni, byddwn yn cysylltu’n fuan iawn i drefnu cyfweliad dros y ffôn neu Microsoft Teams ac yn rhoi gwybod i chi am eich camau nesaf.
Ar ôl eich cyfweliad, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau cynnig i astudio gyda ni. Ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn a chadarnhau eich bod yn ei dderbyn, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi tan y byddwch yn cofrestru trwy ddulliau amrywiol, yn cynnwys y canlynol:
Byddwn yn cadarnhau eich lle ar y cwrs cyn gynted ag y byddwch wedi derbyn eich canlyniadau TGAU. Byddwch wedyn yn cael gwahoddiad i ddod i gofrestru.
Beth os na chaf y canlyniadau TGAU roeddwn yn disgwyl?
Peidiwch da chi â phoeni os na chawsoch y canlyniadau oeddech yn eu disgwyl neu os ydych am newid cwrs. Byddwn yn ysgrifennu atoch ychydig cyn mis Mehefin i gynnig manylion am yr holl sesiynau help, cymorth, cyngor a chanllawiau y byddwn yn eu cynnal dros yr haf, gan roi cyfle i chi archebu slot cyngor a chanllawiau, rhithiol neu wyneb yn wyneb, i drafod eich opsiynau ac i edrych ar y cyrsiau a’r llwybrau sydd ar gael i chi.
Bydd y cyngor hwn a’r canllawiau hyn hefyd ar gael drwy:
Ffôn – 01685 726012
E-bost – admissions@merthyr.ac.uk
Gallwch anfon neges atom ar unrhyw un o’r sianelau cyfryngau cymdeithasol canlynol:
Twitter: @CollegeMerthyr
Facebook: CollegeMerthyrTydfil
Instagram: CollegeMerthyr
I’ch helpu i baratoi ar gyfer cofrestru, edrychwch ar ein tudalen wybodaeth gofrestru yma.
Ar ôl i chi dderbyn yr holl gyngor a chanllawiau rydych eu hangen, penderfynu’n derfynol ar eich dewis bwnc a chwblhau’r broses gofrestru, cewch wahoddiad i gymryd rhan yn ein rhaglen o weithgareddau pontio a nodir uchod a hefyd i ddod i ddigwyddiad cynefino yn y coleg.
Byddwn yn eich hysbysu am ddyddiad y digwyddiad cynefino cyn gynted ag y gallwn.
Yn ystod y cynefino hwn, byddwch yn cwrdd â thiwtor eich cwrs, yn mynd trwy’ch amserlen, yn derbyn cyflwyniad am y modd y bydd eich Addysgu a Dysgu yn cael ei gyfleu drwy’r flwyddyn academaidd ac yn cael cyfle i holi unrhyw gwestiynau sydd gennych.