Gwibio i'r prif gynnwys
Croeso i’n tudalen Derbyniadau a Phontio 

Bwriad y dudalen hon yw cynnig yr holl wybodaeth fyddwch ei angen i gefnogi eich cais a’ch cyfnod pontio i’r coleg. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni ar admissions@merthyr.ac.uk neu ffoniwch 01685 726012

Eich Tîm Derbyniadau 

Mae gennym Dîm Derbyniadau cyfeillgar, gwybodus a phrofiadol sydd yma i sicrhau bod pob dysgwr unigol sy’n chwilio am le yn y coleg yn cydweddu â rhaglen neu gwrs astudio sy’n eu galluogi i gyflawni’r gorau posib ac i symud ymlaen i gyrchfan o’u dewis. 

O’r ymholiad cyntaf hyd at gofrestru a chynefino, mae’r tîm yma i wneud y canlynol:

  • Ateb unrhyw gwestiwn neu ymholiad cychwynnol sydd gennych
  • Cynnig gwybodaeth, cyngor a chanllawiau ynghylch y cyrsiau sydd ar gael a’r gofynion mynediad perthnasol a’r llwybrau symud ymlaen
  • Eich helpu a’ch cynorthwyo gyda’ch cais, cyfweliad a’ch cyfnod pontio i’r coleg, yn cynnwys cynnig gwybodaeth am gyllid myfyrwyr, ysgoloriaethau, teithio a chymorth i ddysgwyr
  • Cadw mewn cysylltiad â chi drwy gydol eich cyfnod pontio i’r coleg
  • Rhoi cymorth i chi yn ystod eich wythnosau cyntaf yn y coleg, yn cynnwys cofrestru a chyfnod cynefino.

I gysylltu â’r tîm, e-bostiwch admissions@merthyr.ac.uk neu ffoniwch 01685 726012

Eich Proses Gwneud Cais 

Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais, gallwch wneud cais am gwrs naill ai drwy wneud y canlynol:

1. Mynd ar ein Gwefan www.merthyr.ac.uk a chlicio’r botwm gwneud cais nawr ar y cwrs o’ch dewis

I gael canllawiau manwl ar sut i gwblhau’r broses gwneud cais ar-lein, cliciwch yma.

Ar ddiwedd y broses gwneud cais, cewch eich cyfarwyddo i ddilyn dolen i lanw Sgriniwr WEST (dolen yma)

I gael canllawiau manwl ar sut i lanw sgriniwr WEST,  cliciwch yma

Beth os wyf yn ansicr ynglŷn â pha gwrs i’w astudio? 

Os ydych yn parhau’n ansicr ynglŷn â pha gwrs ydych am wneud cais amdano, edrychwch ar ein tudalen Diwrnod Agored Rhithiol 24/7 yma neu cysylltwch â’n tîm o gynghorwyr derbyniadau a all gynnig cyngor rhithiol, dros y ffôn neu drwy e-bost am yr amrywiaeth gyfan o gyrsiau a llwybrau sydd ar gael i chi.

 

 

Os ydych yn ystyried gwneud cais am gwrs addysg uwch gyda ni, ewch i’n tudalen bwrpasol Digwyddiad Agored Rhithiol AU yma

Os ydych eisoes wedi gwneud cais i astudio cwrs gyda ni ac wedi derbyn cynnig amodol neu ddiamod, byddwch yn derbyn llythyr ac e-bost yn eich hysbysu am y broses gofrestru.

Os mai newydd wneud cais ydych chi, peidiwch da chi â phoeni, byddwn yn cysylltu’n fuan iawn i drefnu cyfweliad dros y ffôn neu Microsoft Teams ac yn rhoi gwybod i chi am eich camau nesaf.

 

Ar ôl eich cyfweliad, byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau cynnig i astudio gyda ni. Ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn a chadarnhau eich bod yn ei dderbyn, byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi tan y byddwch yn cofrestru trwy ddulliau amrywiol, yn cynnwys y canlynol:

  • Anfon y newyddion diweddaraf a negeseuon e-bost rheolaidd
  • Trefnu sesiynau croeso a chyfarch gyda thiwtoriaid eich cwrs (yn rhithiol ac wyneb yn wyneb os gallwn)
  • Trefnu amrywiaeth o sesiynau pontio, help, cyngor a chanllawiau
  • Rhoi amrywiaeth o ddeunydd pontio i’ch helpu i ddechrau dod yn gyfarwydd â’r cwrs/cyrsiau y byddwch yn astudio 
Cofrestru yn y coleg 

Byddwn yn cadarnhau eich lle ar y cwrs cyn gynted ag y byddwch wedi derbyn eich canlyniadau TGAU. Byddwch wedyn yn cael gwahoddiad i ddod i gofrestru. 

Beth os na chaf y canlyniadau TGAU roeddwn yn disgwyl? 

Peidiwch da chi â phoeni os na chawsoch y canlyniadau oeddech yn eu disgwyl neu os ydych am newid cwrs. Byddwn yn ysgrifennu atoch ychydig cyn mis Mehefin i gynnig manylion am yr holl sesiynau help, cymorth, cyngor a chanllawiau y byddwn yn eu cynnal dros yr haf, gan roi cyfle i chi archebu slot cyngor a chanllawiau, rhithiol neu wyneb yn wyneb, i drafod eich opsiynau ac i edrych ar y cyrsiau a’r llwybrau sydd ar gael i chi. 

Bydd y cyngor hwn a’r canllawiau hyn hefyd ar gael drwy:

Ffôn – 01685 726012
E-bost – admissions@merthyr.ac.uk 
Gallwch anfon neges atom ar unrhyw un o’r sianelau cyfryngau cymdeithasol canlynol:
Twitter: @CollegeMerthyr
Facebook: CollegeMerthyrTydfil
Instagram: CollegeMerthyr

I’ch helpu i baratoi ar gyfer cofrestru, edrychwch ar ein tudalen wybodaeth gofrestru yma. 

Eich cyfnod Cynefino 

Ar ôl i chi dderbyn yr holl gyngor a chanllawiau rydych eu hangen, penderfynu’n derfynol ar eich dewis bwnc a chwblhau’r broses gofrestru, cewch wahoddiad i gymryd rhan yn ein rhaglen o weithgareddau pontio a nodir uchod a hefyd i ddod i ddigwyddiad cynefino yn y coleg. 

Byddwn yn eich hysbysu am ddyddiad y digwyddiad cynefino cyn gynted ag y gallwn.

Yn ystod y cynefino hwn, byddwch yn cwrdd â thiwtor eich cwrs, yn mynd trwy’ch amserlen, yn derbyn cyflwyniad am y modd y bydd eich Addysgu a Dysgu yn cael ei gyfleu drwy’r flwyddyn academaidd ac yn cael cyfle i holi unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite