Rydym yn llyfrgell 21ain Ganrif sy’n dymuno bod yn fwy na storfa’n unig i adnoddau.
Mae gennym lawer mwy i’w gynnig, yn cynnwys sesiynau addysg i ddefnyddwyr, MACs, Gliniaduron, WiFi am ddim, ardal dawel i astudio ac ystafell amlgyfrwng gyda chyfleusterau rhyngweithiol. Gallwn gynnig gwasanaeth personol o ansawdd uchel gyda staff cyfeillgar a gwybodus i’ch helpu i wireddu eich potensial i’r eithaf.
Gall pob dysgwr gael gafael ar adnoddau Prifysgol De Cymru a chael eitemau wedi’u trosglwyddo i Gampws Merthyr o fewn 48 awr!
Mae gennym amrywiaeth eang o e-adnoddau er budd pob math o ddysgwr.
Mae gennym amrywiaeth o adnoddau o lyfrau, eLyfrau, DVDs, cylchgronau a chyfnodolion, ac amrywiaeth o E-adnoddau!
Eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr yw eich cerdyn llyfrgell – ni fyddwch yn gallu benthyca/adnewyddu eitemau yn y llyfrgell hebddo.
Sawl eitem gaf i fenthyca? – 10 eitem o Ferthyr a 5 o Brifysgol De Cymru
Am ba hyd mae modd benthyca eitemau? – Mae gan ein holl lyfrau labeli lliw gwahanol i roi gwybod i chi am ba hyd y cewch chi eu benthyca.