Rydym wrth ein bodd yn eich croesawu fel dysgwr addysg uwch am y flwyddyn academaidd 2021-2022. Fel coleg rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn cael y profiad gorau posib. Mae bod yn rhan o’n teulu ycmt yn golygu y bydd gennych nid yn unig fynediad i’r addysgu a dysgu gorau oll, staff cyfeillgar a chefnogol, dosbarthiadau bach a’r cyfleusterau a’r adnoddau diweddaraf, ond hefyd cewch elwa o fod yn rhan o grŵp ehangach PDC.
Mae’r coleg wedi ymrwymo i sicrhau iechyd a diogelwch pob un o’n staff a’n dysgwyr. Ein prif flaenoriaeth yw darparu amgylchedd diogel wedi’i reoli sy’n galluogi pob dysgwr i wireddu eu potensial i’r eithaf ac i symud ymlaen yn llwyddiannus i ris nesaf ar ysgol yr yrfa o’u dewis, pa un ai symud ymlaen i lefel nesaf eich cwrs AU yma yn y coleg neu ym Mhrifysgol De Cymru neu symud ymlaen i gael swydd. O ganlyniad, byddem yn hynod ddiolchgar pe byddech yn rhoi sylw arbennig i’r wybodaeth am iechyd a diogelwch a fanylir isod er mwyn i chi ymgyfarwyddo â holl agweddau a gweithdrefnau diogelwch sydd gennym mewn grym i roi cymorth i chi tra byddwch yn y coleg.
Croeso i’r coleg |
|
Sicrhau eich iechyd a diogelwch yn y coleg | |
Gwybodaeth a dogfennau allweddol i gefnogi eich proses gynefino |
|
Gwybodaeth allweddol am y Coleg |
Gyrfaoedd, Cyflogadwyedd, Menter a Chymorth gyda’r Iaith Gymraeg |
Eich Cymuned AU yn y Coleg |