Gwibio i'r prif gynnwys

Mae’r coleg yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio Cymraeg ar sawl lefel, o’r sylfaenol, i Gymraeg Lefel A. 

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y coleg yn cynyddu ar hyn o bryd – caiff pob dysgwr gyfle i gynhyrchu unrhyw ddarn o’u gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Nid oes rhaid i chi astudio trwy gyfrwng y Gymraeg i elwa ar wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y coleg. Mae ein Swyddog Iaith Gymraeg - Lynwen Harrington yma i roi cymorth i chi a’ch cynghori a chynnig cyfleoedd i chi wneud y canlynol:  

  • Mynychu gwersi Cymraeg drwy gydol y dydd neu gyda’r nos
  • Cyflwyno’ch gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Mynychu lleoliadau cyfrwng Cymraeg ar eich profiad gwaith. 
  • Ymarfer sgiliau cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Cael cymorth i lunio CV cyfrwng Cymraeg. 
  • Cwblhau eich sgiliau allweddol yn Gymraeg. 
  • Dysgu mwy am Gymru a’r iaith Gymraeg drwy Fagloriaeth Cymru. 
  • Astudio sesiynau cymorth sgiliau trwy gyfrwng y Gymraeg yn cynnwys gweithdai, un i un, grwpiau bach ac yn y dosbarth. 
  • Cymorth sgiliau astudio penodol i’r pwnc yn cynnwys ceisiadau cyfieithu deunydd cwrs e.e. mathemateg a gwyddoniaeth. 
  • Siaradwyr gwadd Cymraeg a gweithdai Cymraeg. 
  • Rhestrau termau a geirfâu dwyieithog ar gais. 
  • Cyfweliadau ffug cyfrwng Cymraeg. 
  • Staff dwyieithog yn y dderbynfa, cymorth i fyfyrwyr, yn yr Hafan Dysgu ac i’ch arwain drwy broses UCAS. 
  • Cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol Cymraeg. 

Dod yn llysgennad yr iaith Gymraeg. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Lynwen Harrington, Swyddog Iaith/Safonau Cymraeg-Welsh Language/compliance Officer.

l.harrington@merthyr.ac.uk 

Estyniad 6331 neu edrychwch ar ein gwefan ddwyieithog

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite