Mae’r Coleg Merthyr Tudful wedi ymrwymo i gyfleu’r addysg a’r hyfforddiant o’r safon uchaf mewn amgylchedd diogel, cyfeillgar, proffesiynol a chynhwysol, gan sicrhau y bydd pob dysgwr, aelod o staff, rhanddeiliad a phartner yn derbyn y profiad cwsmer gorau posib.
Fel coleg rydym yn ymdrechu’n barhaol i ychwanegu at, a chryfhau’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, gan ystyried adborth gan arolygon Llais Dysgwyr, Cynulliad y Dysgwyr, cyfarfodydd cynrychiolwyr cyrsiau, Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, arolygon cyflogwyr a fforwm y staff i’n helpu i wella profiad ein dysgwyr a’n cwsmeriaid ehangach o’r coleg.
Mae gan y coleg hefyd Bolisi Cwynion, Pryderon a Chanmoliaeth bwrpasol, a ddatblygwyd i sicrhau bod unrhyw gwynion, pryderon neu ganmoliaeth – pa un ai am addysgu a dysgu, cymorth neu wasanaethau cyffredinol y coleg, yn derbyn ymateb yn syth, yn deg ac yn effeithiol hyd eithaf ein gallu ac o fewn adnoddau’r Coleg.
Mae copi llawn o’r polisi ar gael i’w lawrlwytho yma.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw gwynion, pryderon neu ganmoliaeth gan bob cwsmer o’r Coleg Merthyr Tudful, h.y. darpar ddysgwyr, dysgwyr, rhieni/gofalwyr, cyflogwyr ac aelodau o’r cyhoedd, yn ogystal â phob agwedd o weithgaredd y coleg, e.e. cyrsiau addysg bellach ac uwch, dysgu seiliedig ar waith, ac addysg gymunedol i oedolion. Cynlluniwyd y gweithdrefnau i ymdrin ag unrhyw agwedd o’n gwasanaethau yn cynnwys addysgu a hyfforddi, gwasanaethau cymorth, cyngor a chanllawiau a chyfleusterau’r coleg. Gall cwsmeriaid y coleg hefyd gwyno os ydynt yn teimlo eu bod wedi’u trin yn annheg neu’n anaddas, neu os ydynt yn teimlo nad oedd y gwasanaeth a gawsant yn bodloni eu disgwyliadau.
I gyflwyno cwyn, pryder neu ganmoliaeth, gallwch wneud y canlynol:
1. Llanw’r ffurflen ar-lein yma
2. E-bostio’ch cwyn, pryder neu ganmoliaeth i complaints@merthyr.ac.uk
3. Llanw’r ffurflen bapur ar gefn y ddogfen bolisi a’i hanfon i’r coleg drwy’r post neu ei chyflwyno i dderbynfa’r coleg