Tystysgrif VTCT mewn Gwaith Barbwr Lefel 3
Mae Tystysgrif VTCT Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr yn gymhwyster galwedigaethol uwch sy’n canolbwyntio ar ddatblygu technegau gwaith barbwr uwch, torri blew’r wyneb a iechyd a diogelwch. Bydd y dystysgrif yn datblygu’r sgiliau uwch a’r wybodaeth ddamcaniaethol sydd eu hangen ar gyfer gwaith barbwr a thorri blew’r wyneb. Nod y cymhwyster arbenigol hwn yw datblygu gallu galwedigaethol o safon uchel i bobl yn y byd addysg neu ddiwydiant.
Gofynion mynediad
NVQ Lefel 2 neu gymhwyster cyfwerth mewn trin gwallt menywod neu ddynion – Bydd ymgeiswyr yn cael eu dewis mewn cyfweliad.
Camau nesaf
Gall y cymhwyster hwn arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth yn y diwydiant gwaith barbwr fel uwch farbwr, rheolwr salon neu i weithio fel barbwr annibynnol.
I wneud cais, e-bostiwch t.thomas@merthyr.ac.uk