Gwibio i'r prif gynnwys

Polisi Preifatrwydd

 

 

 

Y Coleg Merthyr Tudful. Hysbysiad Preifatrwydd.

 

1.      Cyflwyniad

Y Coleg Merthyr Tudful sy’n darparu’r rhaglen ddysgu rydych am wneud cais amdani. Mae cymryd rhan yn y rhaglen ddysgu hon yn ddibynnol arnoch yn llanw ffurflen gais a darparu data personol.

 

  1. 2.      Pam fod angen eich data personol arnom?

Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn defnyddio gwybodaeth o’n rhyngweithio â chi a dysgwyr eraill yn ogystal ag ambell drydydd parti e.e. eich ysgol uwchradd flaenorol, Gyrfa Cymru, i’n cynorthwyo i gyrraedd ein nod o gynnig y profiad dysgu gorau posibl i chi.

 

Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn parchu hawliau preifatrwydd ein holl ddysgwyr ac mae’n cydnabod pwysigrwydd diogelu’r wybodaeth a gesglir amdanoch. I’r perwyl hwn, rydym wedi sefydlu dulliau gweithredu sy’n sicrhau y caiff eich data personol ei brosesu mewn modd cyfrifol, teg a thryloyw.

 

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi am y data rydym yn casglu ac ym mha fodd; yr amcanion o’i gasglu a’i ddefnyddio; eich hawliau a’ch opsiynau ynghylch ein defnydd o’ch data; y modd y caiff eich data ei brosesu a gyda phwy y caiff ei rannu; ac am ba hyd y byddwn yn storio eich gwybodaeth ac ati. Byddwch cystal â’i ddarllen yn ofalus.

 

 

DIFFINIADAU:

Mae diffiniad data personol yn golygu unrhyw wybodaeth ynghlwm wrth berson naturiol adnabyddedig neu adnabyddadwy. Person adnabyddadwy yw person y mae modd ei adnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn arbennig drwy gyfeiriad at ddynodydd megis enw, rhif adnabod, data lleoliad, dynodydd ar-lein neu drwy un ffactor neu fwy sy’n benodol i hunaniaeth gorfforol, ffisiolegol, genetig, meddyliol, economaidd, diwylliannol neu gymdeithasol y person naturiol hwnnw.



Pan fyddwn yn defnyddio’r term ‘prosesu,’ rydym yn golygu unrhyw weithrediad neu gasgliad o weithrediadau a wneir ar ddata personol neu ar gasgliad o ddata personol, drwy ddulliau awtomatig neu beidio, megis casglu, recordio, trefnu, strwythuro, storio, addasu neu ddiwygio, adfer, ymgynghori, defnyddio, datgelu drwy drosglwyddo, lledaenu neu drefnu ei fod ar gael, alinio neu gyfuno, cyfyngu, dileu neu ddifa. 

 

3.       Pwy sy’n rheoli’r data?

Y Coleg Merthyr Tudful fydd rheolwr data’r wybodaeth bersonol y bydd yn ei derbyn. Cyfeiriad y Coleg yw:

Y Coleg Merthyr Tudful Rhodfa’r Coleg

Merthyr Tudful

CF48 1AR  

 

Bydd Y Coleg Merthyr Tudful yn defnyddio’ch data i sicrhau y bydd y rhaglen ddysgu/rhaglenni dysgu yr ydych yn gwneud cais amdani/amdanynt yn cael ei/eu gweinyddu a’i/a’u monitro’n effeithiol. Os ydych yn gwneud cais oddi mewn i’r DU, bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno tystysgrifau cymhwyso a geirda.

Os ydych yn gwneud cais o’r tu allan i’r DU, bydd gofyn i chi hefyd gyflwyno tystiolaeth ychwanegol megis pasbort a slip talu diweddar. Bydd y coleg yn cadw copi o’r dystiolaeth hon.

 

  1. Pa wybodaeth bersonol amdanoch sy’n cael ei chasglu a’i defnyddio gan Lywodraeth Cymru?

Bydd rhywfaint o’r data a gesglir drwy’r broses ymgeisio yn ddata personol a/neu’n ddata categori arbennig yn unol â’r diffiniad yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data sy’n cynnwys y canlynol:

Data Personol

  • Rhif Dynodydd unigryw’r dysgwr (crëwyd gan Y Coleg Merthyr Tudful)
  • Cyfenw
  • Enw(au) Cyntaf
  • Cyfeiriad
  • Cod Post
  • Rhif Ffôn
  • Rhif Ffôn Symudol
  • Cyfeiriad E-bost
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Rhywedd / Rhyw
  • Cyfenw yn 16
  • Dyddiad geni
  • Hunaniaeth genedlaethol ·         Yr ysgol ddiwethaf i chi ei mynychu neu rydych yn ei mynychu ar hyn o bryd
  • Y flwyddyn y gwnaethoch adael yr ysgol
  • Canlyniadau TGAU disgwyliedig.

Yn ychwanegol, mae data amdanoch a ddiffinnir fel data categori arbennig. Mae cynnig y data yma’n ddewisol a bydd yn cynnwys y canlynol;

  • Ethnigrwydd
  • Gofynion Dysgu Ychwanegol
  • Math o anabledd
  • Cyflwr iechyd.   

 

Defnyddir y categori data personol/arbennig hwn ledled holl ddysgu Ôl-16 o fewn Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu Oedolion yn y Gymuned a Chymraeg i Oedolion.

  1. Sut fydd Y Coleg Merthyr Tudful yn defnyddio’ch data?

 

Bydd Y Coleg Merthyr Tudful yn defnyddio’ch data ar gyfer yr amcanion allweddol canlynol:

 

  • Ar gyfer amcanion gweinyddol, i sicrhau bod y data rydym yn casglu amdanoch yn cael ei storio’n gywir, yn ddiogel ac i ansawdd o safon uchel
  • Gwirio eich hunaniaeth ac i ymateb i unrhyw gwestiwn gennych o ran astudio gyda ni; i brosesu eich cais ac i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i chi.
  • I sicrhau bod eich cais a’r broses gofrestru yn y coleg mor effeithlon â phosibl; e.e. i’ch hysbysu am statws eich cais, i hysbysu tiwtoriaid cwrs o’ch bwriad i astudio eu cwrs, i gysylltu â chi i drefnu cyfweliad dilynol, i ymateb i unrhyw gwestiynau fydd gennych ynghylch eich cyfnod pontio i’r coleg a hefyd i gofnodi unrhyw gymorth anghenion dysgu ychwanegol y byddwch efallai ei angen gennym ni.
  • I’n galluogi i gysylltu â chi i gynnig gwybodaeth bwysig am eich cais, newyddion o’r coleg, digwyddiadau pwysig ac ati.
  • I’ch hysbysu am newidiadau i’n gwasanaethau, telerau, amodau a pholisïau
  • I helpu gwneud penderfyniadau am gynllunio cwrs a recriwtio
  • I helpu’r coleg ddyrannu a monitro cyllido dysgu ôl-16, yn cynnwys dysgu a ariennir ar y cyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
  • I roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar archwilwyr i wneud eu gwaith
  • I helpu monitro cydraddoldeb ac amrywiaeth dysgwyr sy’n gwneud cais am gyrsiau’r coleg
  • Mewn dadansoddi ac ymchwil, pan fyddwn yn archwilio’r data i ganfod patrymau a thueddiadau ledled ein cyrsiau.
  • I alluogi’r coleg i fesur a chymharu ei berfformiad recriwtio a chanfod marchnadoedd targed
  • I fonitro eich datblygiad ymlaen at addysg bellach neu uwch neu gyflogaeth
  • I gynnig gwybodaeth am eich llwyddiannau yn ystod digwyddiadau recriwtio a phontio yn eich ysgol flaenorol
  1. Gyda phwy fydd Llywodraeth Cymru’n rhannu eich data?

Ar hyn o bryd mae’r Coleg Merthyr Tudful yn rhannu eich data gyda’r sefydliadau trydydd parti  hyn:

  • Llywodraeth Cymru
  • Gyrfa Cymru
  •   Estyn
  • Prifysgol De Cymru (ar gyfer ymgeiswyr AU)
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Eich ysgol uwchradd flaenorol neu’r un bresennol
  • Tribal EBS
  • Dynistics Dashboards
  • Synel.    

 

Cytundebau Rhannu Data.

Mae gan Y Coleg Merthyr Tudful gytundeb ffurfiol rhannu data mewn grym pryd bynnag y byddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd parti. Mae rhan o’r cytundeb yn golygu y bydd rhaid i’r trydydd parti arwyddo cytundeb cyfrinachedd o ran eich data i ddangos fod ganddynt weithdrefnau boddhaol o ran diogelwch gwybodaeth a’u bod yn difa copïau o’ch data pan na fydd ei angen mwyach. Byddant yn cael defnyddio’ch data yn unig ar gyfer y bwriad y gwnaethant ymrwymo ag ef a dim byd arall. Caiff pob copi o drosglwyddiadau data eu logio a’u cofnodi. Mae gan Y Coleg Merthyr Tudful Gytundeb Datgelu Data cyfredol mewn grym gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a phedair Ysgol Uwchradd Merthyr Tudful – Afon Taf, Cyfarthfa, Bishop Hedley a Phen y Dre.

 

Trefniadau Diogelwch am eich data sydd gan Y Coleg Merthyr Tudful

Bydd y data a gesglir amdanoch gan Y Coleg Merthyr Tudful yn cael ei storio mewn cronfa ddata ddiogel y rheolir mynediad iddi sy’n cael ei phrofi’n rheolaidd o ran diogelwch a chywirdeb.  

 

Bydd eich data hefyd yn cael ei gysylltu ar gyfer amcanion adrodd gyda chofnodion addysgol eraill gan eich ysgol uwchradd flaenorol, Llywodraeth Cymru megis Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, a gyda chofnodion eraill sydd gan Lywodraeth y DU megis data cyflogaeth, er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cyfrifo mesurau cyrchfannau dysgwyr a hefyd i ddeall effaith darpariaeth ôl-16 ar ganlyniadau ehangach.  Bydd unrhyw ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn ddienw, sy’n golygu na fydd modd adnabod dysgwyr unigol

  1. Eich hawliau a’ch dewisiadau.

O dan Y Rheoliad Cyffredinol ar Reoli Data (GDPR) mae’r gennych hawl i’r canlynol:

  • Gweld y data personol sydd gan Y Coleg Merthyr Tudful amdanoch
  • Gofyn i’r Coleg Merthyr Tudful gywiro unrhyw anghywirdebau yn y data
  • Gwrthwynebu prosesu am resymau’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol (mewn rhai amgylchiadau)
  • Cyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • Cael eich data wedi’i ddileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

 

  1. Am ba hyd fydd Y Coleg Merthyr Tudful yn cadw eich gwybodaeth?

 

 

 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite