Gwibio i'r prif gynnwys

Dysgwyr yn cyflawni llwyddiant chwaraeon cenedlaethol

Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn dathlu cyflawniadau anhygoel dau ddysgwr sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol tra cydbwyso eu hastudiaethau academaidd gyda chwaraeon ar lefel elît.    

Llwyddiant Tennis Bwrdd i Jack Morgan 

Cafodd Jack Morgan, dysgwr BTEC Lefel 3 Technoleg Gwybodaeth yn y Coleg Merthyr Tudful, ei ddewis i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth tenis bwrdd rhyngwladol yn Sweden ym mis Chwefror.  

Yn hen ddisgybl Ysgol Idris Davies, mae Jack yn ddysgwr uchelgeisiol sy’n cyfuno ei astudiaethau gyda chystadlu ar lefel uchel yn denis bwrdd. Ers ymuno a’r coleg, mae Jack wedi bod yn rhan annatod o Academi Tennis Bwrdd y Coleg, yn buddio o ymarferion strwythurol, yn seiliedig ar y garfan wedi’i ddarparu ar y cyd gyda’i rhaglen academaidd.  

Yn siarad am ei ddewisiad, dywedodd Jack: 

“Dwi’n hapus iawn i fynd i Sweden ac i chwarae dros fy ngwlad, a dwi’n edrych ymlaen at chwarae yn erbyn chwaraewyr o lefel uchel. Ers dod i'r coleg, dwi wedi bod yn rhan o’r academi tennis bwrdd, ac mae sesiynau gyda Callum Evans a Sam Havers wedi helpu fy natblygiad. Mae cael sesiynau wedi’u seilio ar y garfan yn y coleg wedi bod yn help gan fod hi wedi lleihau teithio”.   

Rhoddodd Delme Jenkins, cydlynydd yr Academi Chwaraeon, canmoliaeth i Jack am ei ymrwymiad a chynydd.  

“Mae Jack yn ddysgwyr cymell a chydwybodol, ac wedi cydbwyso ei astudiaethau a’i ymrwymiadau yn wych. Mae Jack yn rhan o gynllun Athletwr Deuol TASS, ac mae ei ddatblygiad addysgol, chwaraeon a holistaidd wedi cyflymu trwy fod yn rhan o’r rhaglen yma. Hoffai’r Coleg llongyfarch Jack ar ei ddewisiad.”   

Cydnabyddiaeth pêl-droed i Benjamin Matthews 

Mae’r coleg hefyd yn falch i ddathlu Benjamin Matthews, sydd wedi cael ei ddewis am garfan o dan 18 Ysgolion Cymru. Bydd Ben yn ymuno a’r garfan i wynebu Ysgolion Annibynnol Lloegr yn Amwythig ar 1 Chwefror 2026.  

Mae Ben yn astudio Busnes yn y coleg ac wedi mynd i'r Academi Pêl-droed ers y ddwy flynedd diwethaf. Ar ben ei astudiaethau, maent yn aelod allweddol o Bontypridd Unedig, yn arddangos ei allu i berfformion, ar lefel uchel yn gyson yn academaidd ac ar y cae.   

Yn adlewyrchu ar ei ddewisiad, dywedodd Ben:  

“Mae’n fraint i gael y cyfle i gysylltu ag Ysgolion Cymru. Roedd safon y treialon yn uchel iawn, felly dwi’n gwerthfawrogi’r cyfle yma. Hoffwn i fynegi fy niolch i David Haggett am ei amser, gwybodaeth a chefnogaeth. Mae’r rhaglen yn y coleg o safon uchel, ac mi faswn i'n ei argymell i ddysgwyr y dyfodol.” 

Ychwanegodd David Haggett, Prif Hyfforddwr y Coleg:  

“Dwi’n falch iawn dros Ben. Mae’n ddysgwr rhagorol sy’n perfformio’n dda ia yn ei astudiaethau academaidd ac ar y cae pêl-droed. Mae Ben yn eithriadol o ymrwymedig, ac ar ran y coleg hoffwn ddymuno'r gorau iddo yn y gemau i ddod.” 

Cefnogi dysgwyr i lwyddo 

Mae’r cyflawniadau yma yn arddangos ymrwymiad y Coleg Merthyr Tudful i gefnogi dysgwyr trwy ddarpariaeth academaidd o ansawdd uchel, gyda rhaglenni chwaraeon elit. Trwy academïau a hyfforddi arbenigol a llwybrau deuol-gyrfa, mae dysgwyr yn cael eu cefnogi i ragori yn addysg a chwaraeon. 

 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite