Gwibio i'r prif gynnwys

Mae seren golff y coleg, Callum Hook, wedi ennill Pencampwriaeth Genedlaethol a felly mae e wedi sicrhau gwahoddiad rhyngwladol.

Mae'r coleg yn falch o gyhoeddi bod y myfyriwr Callum Hook wedi perfformio yn rhagorol yn ddiweddar, gan ennill Pencampwriaeth Taith Rhyng-Golegol a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff Mottram Hall yn Macclesfield.

Gan gystadlu yn erbyn y golffwyr colegol gorau o ledled y Gogledd a'r De, dangosodd Callum sgiliau, a chysondeb eithriadol gyda rowndiau o 70, 69, a 76, gan orffen y bencampwriaeth tri diwrnod ar 1-dan par. Mae ei fuddugoliaeth drawiadol wedi ennill gwahoddiad iddo i'r Taith Anrhydeddus Faldo Iau, a fydd yn cael ei chynnal yng Nghlwb Marchogaeth, Saethu a Golff Al Ain yn yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Wrth fyfyrio ar ei lwyddiant, dywedodd Callum:

"Rwy'n  hapus tu hwnt gyda fy mherfformiad dros y tair rownd, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth y mae'r coleg wedi'i roi i mi. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i wedi cael profiad o'r radd flaenaf – elwais  o hyfforddi o ansawdd uchel, cymorth perfformiad, a chyfleusterau rhagorol. Mae'r gwersi ychwanegol, a'r amser ymarfer wedi gwella fy ngêm yn sylweddol."

"Hoffwn hefyd ddiolch i'm cyd-chwaraewyr. Rydyn ni'n gwthio ein gilydd i wneud ein gorau, ac mae gorffen yn bedwerydd fel tîm - dim ond chwe ergyd y tu ôl i'r arweinwyr - yn dangos ein cryfder. Rwy'n hyderus y byddwn yn adeiladu ar hyn ac yn mynd hyd yn oed ymhellach y flwyddyn nesaf."

Cyflwynodd tîm golff y coleg berfformiad cryf ar y cyd, gan orffen yn 4ydd yn gyffredinol y tu ôl i Goleg Dyfnàin C, Coleg Dyfnáin A, a Choleg Itchen. Mae hyn yn gyflawniad sylweddol i'r tîm ac yn tanlinellu llwyddiant a thwf parhaus Academi Golff y coleg, dan arweiniad  y Prif Hyfforddwr Neil Matthews.

Mae'r hyfforddwr Matthews wedi bod yn allweddol, wrth ddatblygu rhaglen perfformiad uchel sy'n cyfuno hyfforddi elitaidd â rhagoriaeth academaidd. Mae ei ymroddiad a'i brofiad yn parhau i godi safon chwarae a phroffesiynoldeb ymhlith y myfyrwyr-athletwyr.

Ymhlith y perfformwyr mwyaf blaenllaw roedd y myfyriwr Busnes blwyddyn gyntaf William Pontin, a orffennodd yn y 10 sgoriwr net uchaf yn y rowndiau terfynol yn genedlaethol. Cafodd William gyfnod cymhwyso eithriadol, gan ddod i'r amlwg fel y chwaraewr uchaf yn nhablau cynghrair Cymhwyster y De - cyflawniad rhagorol o ystyried yr amodau heriol trwy gydol y tymor.

Hoffai'r coleg hefyd gydnabod a llongyfarch aelodau eraill y tîm a gynrychiolodd y coleg eleni:

  1. Mason Rees
  2. Ioan Mann
  3. Rhys Hill
  4. Brodi Lewis

Canmolodd Simon Evans, Pennaeth Cynorthwyol, gyflawniadau'r tîm:

"Mae hwn yn gyflawniad gwych gan Callum a'r tîm golff cyfan. Mae'r canlyniadau'n dyst i'w hymrwymiad, eu disgyblaeth a'u gwaith caled. Diolch yn arbennig i Neil Matthews am arwain rhaglen mor eithriadol. Mae ei hyfforddi a'i arweinyddiaeth wedi helpu i lunio diwylliant o ragoriaeth, ac edrychwn ymlaen at weld sut mae'r rhaglen yn parhau i dyfu."

Mae'r coleg yn falch dros ben o'r holl fyfyrwyr wnaeth cymryd rhan, ac yn gyffrous am yr hyn sydd o'n blaenau fel Academi Golff. 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite