Mae Y Coleg Merthyr Tudful wedi derbyn enwebiad Gwobr Dewi Sant am ei ymroddiad i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni ei lawn botensial.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn gynharach y mis hwn gyda’r Tìm Ysbrydoli i Gyflawni Y Coleg Merthyr Tudful yn cael ei enwebu yn y categori Gwasanaethau’r Cyhoedd.
Gwobrwyir hyn i unigolyn neu dîm sydd wedi mynd y tu hwnt er mwyn darparu gwasanaeth eithriadol i bobl Cymru.
Yn ddiweddar, enillodd y tîm wobr ‘Ymgysylltiad Dysgwyr yn yr Ysgol/Coleg’ yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru. Mae hwn yn gategori newydd sy’n cydnabod ysgol neu goleg sydd wedi dangos dull wych o helpu i wella ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr.
Y presenoldeb cyfartalog yn Y Coleg Merthyr Tudful ar gyfer y flwyddyn academaidd hon hyd yma yw 91.0%, i fyny o 90.4% dros yr un cyfnod ym mlwyddyn academaidd 2023/24.*
Gwobrwywyd y Tîm Ysbrydoli am y gwaith y maent wedi’i wneud i gefnogi dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio o’u hastudiaethau a rhoi’r gorau i addysg – gan arwain at gyfradd gwblhau drawiadol o 94% ymysg y dysgwyr y gwnaethant eu cefnogi yn ystod 2023-2024.
Mae dysgwyr yn disgrifio'r tîm fel un sy'n eu helpu i deimlo'n ddiogel ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'w bywydau.
Dywedodd Rhian Francis, Pennaeth Gwasanaethau Llesiant a Chymorth i Ddysgwyr y coleg: “Rydym mor falch o gael derbyn enwebiad ar gyfer gwobr mor fawreddog.
“Mae’r tîm wedi gweithio’n hynod o galed i roi amrywiaeth o ymyriadau ar waith i ddileu rhwystrau i ddysgu, gwella perfformiad academaidd, datblygiad personol a chymdeithasol, sgiliau bywyd a chynyddu presenoldeb.”
Dywedodd Lisa Thomas, Pennaeth Y Coleg Merthyr Tudful: “Mae’r enwebiad yn arddangos gwaith caled ac ymroddiad ein staff anhygoel sy’n haeddu’r gydnabyddiaeth.
“Fel coleg rydym wrth ein bodd a dwi’n hynod falch o’r tîm.”
Bydd yr holl enillwyr yn derbyn tlws Gwobrau Dewi Sant, wedi’i ddylunio a’i greu gan artist Cymreig blaenllaw. Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Iau 27ain Mawrth 2025 yn y Senedd.