Mae'n bleser gan Goleg Merthyr Tudful gyhoeddi partneriaeth newydd sbon gydag Athletau Cymru.
Nod y bartneriaeth, a gaiff ei lansio mewn digwyddiad ddydd Iau 27 Mehefin, yw creu canolfan ddatblygu ranbarthol ar gyfer athletwyr dygnwch yng nghanol Merthyr Tudful, gan gefnogi cenhadaeth y coleg i drawsnewid bywydau trwy weithio mewn partneriaeth ac alinio â gweledigaeth perfformiad Athletau Cymru o "Darparu system perfformiad elît sy'n arwain y sector cynaliadwy".
Mae Athletau Cymru a'r Coleg Merthyr Tudful yn cydnabod yr angen i fyfyrwyr sy'n athletwyr gael mynediad at raglenni perfformiad o ansawdd uchel a all gyfuno'n ddi-dor â chyflwyno amser academaidd a bydd y Rhaglen Datblygu Dygnwch Rhanbarthol yn darparu llwybr perffaith i ddysgwyr sy'n dymuno datblygu eu gallu ochr yn ochr â'u hastudiaethau academaidd.
Dywedodd Chris Type, Pennaeth Perfformiad Athletau Cymru:
"Y bartneriaeth gyda Choleg Merthyr Tudful yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru ac ar gyfer Llwybr Perfformiad Athletau Cymru. Mae'r Rhaglen Datblygu Dygnwch Rhanbarthol yn rhoi cyfle cyffrous i fyfyrwyr ifanc gymryd rhan mewn rhaglen datblygu perfformiad strwythuredig wrth astudio cwrs addysg bellach yn y coleg.
Yn seiliedig ar fodel presennol Academi Chwaraeon y coleg, bydd dysgwyr yn gallu astudio unrhyw gwrs addysg bellach y maent yn dymuno ei wneud yn y coleg a chyfuno hyn â'r rhaglen datblygu rhanbarthol. Felly, p'un a ydynt am ddod yn beiriannydd, yn feddyg, neu yn astudio adeiladwaith gyda'r nod o symud ymlaen i brentisiaeth, bydd y rhaglen datblygu dygnwch hon yn hygyrch iddynt.
Trwy'r rhaglen, bydd dysgwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau Traws Gwlad Morgannwg ac Ysgolion Cymru a hefyd digwyddiadau Pencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon Cymdeithas y Colegau tra ar yr un pryd yn derbyn hyfforddiant lefel uchel a chyngor maethol.
Fodd bynnag, pwynt gwerthu go iawn y rhaglen hon heb os fydd cyfle i'r athletwyr gymryd rhan mewn profion maes ffisioleg yn y cyfleusterau gwych ym Met Caerdydd, gan eu galluogi i gael cynllun hyfforddi unigol i helpu i ddatblygu eu cryfder a'u perfformiad ymhellach.
Dywedodd Simon Evans, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Merthyr Tudful, "Mae'r Coleg Merthyr Tudful yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Athletau Cymru i ddatblygu'r Rhaglen Datblygu Rhanbarthol.
"Rydym ni yn y Coleg wedi ymrwymo i "Drawsnewid bywydau trwy gydweithio" a bydd gweithio gydag Athletau Cymru yn ein helpu i ddarparu cyfleoedd i athletwyr lleol, nad oes ganddynt y modd na'r fforddiadwyedd i allu cael mynediad atynt fel arall."