Gwibio i'r prif gynnwys

‘Dywedodd rhywun wrthai nad oedd yn ymddangos bod gen i unrhyw ddiddordeb mewn peirianneg – dwi wrth fy modd yn profi’r bechgyn yn anghywir’

‘Dywedodd rhywun wrthai nad oedd yn ymddangos bod gen i unrhyw ddiddordeb mewn peirianneg – dwi wrth fy modd yn profi’r bechgyn yn anghywir’

Roedd Lily Phillips yn awyddus i fynd yn groes i'r duedd ac ymgolli yn y diwydiant peirianneg sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion.

Taniwyd ei brwdfrydedd am beirianneg yn ystod ei harholiadau TGAU ar ôl i athrawes benywaidd ei chyflwyno i’r llwybr peirianneg a’i hannog i ddod o hyd i’w hawch mewn pynciau STEM.

Astudiodd Lily BTEC Lefel 3 Peirianneg Uwch a Gweithgynhyrchu yn Y Coleg Merthyr Tudful ble y llwyddodd i fanteisio ar y cyfleoedd niferus oedd ar gael. Ymunodd Lily â Chynllun Bwrsariaeth Addysg Uwch Ymddiriedolaeth Panasonic lle cafodd ei gwahodd i ysgolion i siarad â phobl iau am beirianneg. Mae'r cynllun yn cefnogi myfyrwyr Y Coleg Merthyr Tudful o fewn y sector peirianneg gyda bwrsari gwerth £15,000 dros gyfnod o dair blynedd. Cânt eu dewis yn ôl eu canlyniadau TGAU.

Ar ôl mynychu cyfweliad ar gyfer ei phrentisiaeth gyntaf, dywedwyd wrthi nad oedd yn ymddangos bod ganddi ddigon o ddiddordeb mewn peirianneg a dyma oedd ei phrofiad cyntaf hi o deimlo, oherwydd ei bod yn fenyw, y byddai’n wynebu rhwystrau mewn diwydiant sy’n cael ei ddominyddu gan ddynion. Serch hynny, rhoddodd y profiad hwn yr awydd iddi brofi i eraill y gall menywod gael gyrfaoedd llwyddiannus mewn peirianneg hefyd.

Meddai: “Fi yw’r unig ferch sydd wedi bod yn fy nosbarth yn y coleg a’r brifysgol erioed, gelli di weld yn glir fy mod yn ei fwynhau’n fwy na’r rhan fwyaf o’r bechgyn yn fy nosbarth.

“Dwi’n credu’n gryf y gall unrhyw un, waeth beth fo’u rhyw, gyflawni beth bynnag y maent eisiau. Yn bersonol, mae yna deimlad o foddhad wrth brofi’r stereoteipiau'n anghywir, yn enwedig pan mae’n fater o herio canfyddiadau am yr hyn y gall merched ei gyflawni. Nid yw’n ymwneud â chystadlu â bechgyn ond yn hytrach gyda chael gwared o rwystrau a dangos nad oes ffiniau rhyw i fod yn benderfynol.”

Mae Lily’n astudio peirianneg fecanyddol HNC ym Mhrifysgol De Cymru ac yn treulio pedwar diwrnod yr wythnos yn Tenneco-Walker ym Merthyr, yn cwblhau prentisiaeth. Ers i’w phrentisiaeth ddechrau, mae hyder Lily wedi cynyddu a nawr mae hi eisiau ysbrydoli menywod eraill i archwilio’r diwydiant peirianneg.

Meddai: “Os wyt ti wir eisiau gwneud rhywbeth a bod gen ti wir angerdd am rywbeth yna paid â gadael i farn pobl eraill effeithio ar hynny. Fe wnei di geisio dy orau a phrofi pawb yn anghywir. Mae'n deimlad gwerth chweil.

“Nawr wrth edrych yn ôl, byddwn i wrth fy modd yn dweud wrth y lle cyntaf wnaeth fy nghyfweld pa mor dda rydw i'n gwneud oherwydd iddyn nhw fethu allan. Dwi’n angerddol am beirianneg ac dwi wedi cael profiadau mor gadarnhaol gyda menywod eraill yn y maes peirianneg sydd wir yn fy ysgogi.

Er gwaethaf yr heriau y mae Lily wedi’u hwynebu yn ei gyrfa hyd yn hyn, mae’n ffynnu ac yn cydnabod bod ei hamser yn Y Coleg Merthyr wedi bod yn sbardun i’w llwyddiant. Er mai hi oedd yr unig fenyw yn ei dosbarth, mae Lily’n credu iddi gael cefnogaeth lawn ei thiwtoriaid a’i cefnogodd trwy gydol ei hastudiaethau.

Wrth siarad am ei hamser yn Y Coleg Merthyr Tudful, dywedodd: “Fe wnes i fwynhau’r coleg gymaint, roedd fy mhrofiad mor bositif.

“Dynion oedd fy nhiwtoriaid yn bennaf, a fi oedd yr unig ferch yn y dosbarth, ond chefais i byth fy ngwneud i deimlo felly. Es i byth i mewn a theimlo fel yr unig ferch - dyma nhw'n gweld pa mor benderfynol oeddwn i, ac roedden nhw'n parchu hynny'n fawr. Fe wnaethon nhw roi cymaint o gyfleoedd i fi a dysgu cymaint i fi ac roedden nhw'n system gymorth mor dda fel ei fod wedi fy annog i ymdrechu'n galetach. A dweud y gwir, byddwn i wrth fy modd yn mynd yn ôl i'r coleg.

“Roedd y profiad cyffredinol yn eithriadol. Fyddwn i ddim wedi bod eisiau mynd i unman arall. Derbyniodd pob un person yn fy nosbarth oedd eisiau mynd am brentisiaeth gefnogaeth mor anhygoel gan y coleg. Bydde nhw’n ein rhoi ar raglen wahanol i’n helpu ni i gael y brentisiaeth honno – roedd cymaint o gefnogaeth fel mod i’n meddwl yn gyfan gwbl eu bod yn wych fel coleg.”

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite