Gwibio i'r prif gynnwys

Enwi Coleg Merthyr Tudful yn ysgol “Showcase” Microsoft

Mae'r Coleg Merthyr Tudful yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cael ei enwi yn Ysgol “Showcase” Microsoft ar gyfer 2022-23 – camp fawreddog, gyda dim ond cannoedd o ysgolion o amgylch y byd yn cyflawni'r anrhydedd bob blwyddyn.

Mae'r wobr hon yn golygu bod Microsoft wedi cydnabod ein sefydliad fel Ysgol Arbennig, rhan o grŵp elitaidd o ysgolion sy'n enghraifft o'r gorau o addysgu a dysgu yn y byd heddiw. Rydym yn ymfalchïo o wybod bod Microsoft yn cydnabod ein heffaith ar ddyfodol addysg.

Mae Ysgol “Showcase” Microsoft wedi ymrwymo i drawsnewid digidol ledled yr ysgol, yn benodol, gan ddefnyddio Fframwaith Trawsnewid Addysg Microsoft - a'r dechnoleg y mae'n ei golygu – i yrru diwylliant o ddysgu, arloesi a gwelliant parhaus.

Wrth sôn am yr anrhydedd, dywedodd y Pennaeth Lisa Thomas, "Dechreuodd ein Taith Trawsnewid Addysg Microsoft ar yr union adeg gywir i gefnogi'r staff a dysgwyr yn y coleg wrth lywio'u ffordd drwy heriau dysgu ar-lein. Rydym wedi derbyn adborth mor gadarnhaol gan ddysgwyr a rhieni yn y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf ac mae athrawon wedi cyfrannu'n llawn at y trawsnewid hwn, gan ailddyfeisio eu hagwedd at addysgu traddodiadol a defnyddio technoleg ddigidol i addysgu, cefnogi a chyfathrebu â dysgwyr drwy'r most effeithiol ac effeithlon".

Yn ystod y cyfnod hwn mae 38 aelod o staff wedi dod yn Addysgwyr Ardystiedig Microsoft ac mae 11 wedi bod yn Arbenigwyr Addysgwyr Arloeswr.

Meddai ein Cydlynydd Digidol, Gareth Morgan, "Mae'r staff wedi gwneud cyfraniad anferthol at ddatblygiad digidol y coleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae effaith hyn ar yr addysgu a dysgu trwy ein taith Microsoft a rhoi’r budd fwyaf i ni wrth i ni rhoi ein dysgwyr yn gyntaf".

Mae Microsoft “Showcase Schools” yn arloeswyr ym myd addysg. Rydych chi'n rhan o gymuned fyd-eang unigryw, wedi'i chydnabod a'i dathlu ar gyfer trawsnewid addysgol sy'n cynnwys gweledigaeth ac arloesedd mewn addysgu, dysgu, a pharatoi myfyrwyr ar gyfer y dyfodol.

Wrth ddod yn Ysgol “Showcase” bydd Microsoft yn cefnogi'r coleg gyda'i ddyhead i ysbrydoli dysgu gydol oes, gan ysgogi datblygiad sgiliau hanfodol sy'n barod i'r dyfodol fel bod myfyrwyr wedi'u grymuso i gyflawni mwy. Mae'r buddion yn cynnwys grwpiau, “Teams” a chydweithio byd-eang gydag arweinwyr ysgolion o'r un anian ac arloeswyr addysg i drawsnewid dysgu ymhellach; mynediad i ddigwyddiadau Microsoft a lansiadau technoleg; cymorth partner a chynnyrch; mynediad at ganllawiau, adnoddau, ac ymchwil cyfredol; a chodi amlygrwydd a rôl Coleg Merthyr Tudful fel sefydliad blaenllaw.

Meddai Chris Ford, Cyfarwyddwr Dysgu, "Mae hwn yn gyflawniad ardderchog i'r coleg ac mae'n dilyn dwy flynedd o ddatblygiad digidol cyflym o ran staff, adnoddau ac isadeiledd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn, yn enwedig ein cydlynydd digidol Gareth Morgan, ein staff cymorth TG a'n Gweithgor Digidol ac yn olaf ein tîm o Addysgwyr Microsoft".

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite