Gwibio i'r prif gynnwys

Coleg yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysbyty'r Tywysog Charles i ddarparu rhaglen interniaeth â chymorth newydd i ddysgwyr

Rhaglen yw Project SEARCH sy'n gweld pobl ifanc ag awtistiaeth a/neu anawsterau dysgu yn cael profiad gwaith go iawn ynghyd â hyfforddiant mewn cyflogadwyedd a sgiliau byw'n annibynnol i bontio’n llwyddiannus i fywydau oedolion cynhyrchiol.

Bydd yr interniaid yn cwblhau lleoliad 11 mis gyda thri chylchdro drwy adrannau yn yr ysbyty.  Cefnogir y interniaid gan ddau hyfforddwr gwaith gan Elite Supported Employment Agency a thiwtor o Goleg Merthyr Tudful a fydd yn cefnogi'r interniaid ar y safle yn ystod yr wythnos.

Mae Kate Mantle yn un o diwtoriaid y Coleg Merthyr Tudful fydd yn cefnogi'r interniaid. Meddai Kate: "Rydw i mor gyffrous i fod yn rhan o'r prosiect hwn, dyma'r cyntaf o'i fath yn Ysbyty'r Tywysog Charles ac mae'r staff wedi bod yn angerddol iawn ac yn groesawgar tuag at yr interniaid.  Dyma gyfle gwych i'r interniaid ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a rhyng-bersonol.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r interniaid a'u gwylio nhw'n tyfu a datblygu sgiliau newydd dros y flwyddyn nesaf.  Mae'r interniaid yn awyddus i ddechrau ar eu lleoliadau ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at beth ddaw yn sgil y flwyddyn academaidd nesaf."

Dywedodd Samantha Britton, Pennaeth Pobl y Bwrdd Iechyd: "Rydym yn falch iawn o weld y rhaglen yma yn Ysbyty Tywysog Charles. Mae Project Search yn hwyluso interniaethau gyda Choleg Merthyr Tudful i gefnogi unigolion ag anawsterau dysgu.  Fel Bwrdd Iechyd byddwn yn eu cefnogi i ddysgu'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i'w helpu i drosglwyddo i gyflogaeth gyflogedig- mae hyn yn fraint i ni ac yn rhoi boddhad mawr i bawb sy'n ymwneud â'r rhaglen.  Er mwyn i'n staff allu bod yn rhan o helpu i gefnogi lles a mwy o annibyniaeth i bobl ifanc ym Merthyr drwy'r cyfleoedd hyn tra'n profi eu gwytnwch a'u gyriant yn bleser."

Mae Ben yn un o'r interniaid sy'n dechrau yn Ysbyty Tywysog Charles a dywedodd: "Roeddwn i eisiau trio rhywbeth newydd a gwahanol i'r coleg. Roeddwn i'n teimlo'n hapus ac wedi cyffroi y gallwn roi cynnig ar weithio mewn adrannau gwahanol yn yr ysbyty. Dwi'n gobeithio cael swydd fel porthor ar ddiwedd y cwrs".

Dywedodd Intern arall: "Dwi eisiau gweithio yn yr ysbyty a rhoi rhywbeth yn ôl wrth iddyn nhw fy nhrin i pan ges i ddamwain. Bydd y cwrs yn rhoi cyfleoedd i mi weithio mewn amgylchedd ysbyty a dysgu sgiliau newydd i fy helpu i weithio yno yn y dyfodol."

Dywedodd Kieren hefyd: "Dwi eisiau helpu pobl a bod y rheswm mae rhywun yn gwenu. Dwi'n gwybod na alla i helpu pawb, ond hoffwn i allu helpu rhai pobl. Rydw i'n mynd i gael llawer o gyfleoedd gyda Project Search i ddysgu sgiliau newydd a'u rhoi ar waith yn gweithio mewn gwahanol adrannau yn ogystal â magu hyder."

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite