Safwn gyda phobl Wcráin.
Ar hyn o bryd, mae nifer o'n cydweithwyr yn casglu blychau dyngarol i’w hanfon i helpu pobl Wcráin sy’n ffoi rhag y rhyfel ofnadwy hwn.
Byddem yn croesawu rhoddion gan staff, dysgwyr a'r cyhoedd o eitemau sydd eu hangen ar frys. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Blancedi thermol, sachau cysgu, dillad gwely, tywelion, matiau cysgu neu fatiau ioga (yn ddefnyddiol wrth gysgu ar y llawr), matresi milwrol, blancedi, clustogau
- Cotiau glaw
Eitemau hylendid personol
- past dannedd
- brwsys dannedd
- sychwyr hylendid
- cewynnau - pob maint
- tywelion misglwyf
- rholiau papur cegin
- papur toiled
- geliau gwrthfacterol
- alcohol meddygol
- masgiau wyneb
Eitemau cymorth cyntaf
- sychwyr a geliau gwrthseptig
- plastrau
- rhwymynnau
- Gronynnau Celox
- Tourniquets
- Pebyll maes
- gwelyau gwersylla
- barbeciw tafladwy
- potiau coginio
- brethyn microfiber
- setiau bwyta unigol o fowliau, platiau, cwpanau a chyllyll a ffyrc
- batris - meintiau amrywiol, canhwyllau, tortsys
Bwyd:
- Unrhyw fath o brydau gwib – ‘Pot noodle’, ‘Cuppa soup’ ac ati,
- grawnfwydydd
- bariau grawnfwyd/bariau protein
- ffrwythau sych
- cnau
- cig a physgod tun
- pasta
- reis, ffacbys ac ati
- coffi a the
- siwgr
A fyddech cystal â gadael eich roddion ger Derbynfa'r Coleg fel y gall Marta gasglu'r holl eitemau a'u cludo i Gasnewydd.
Mae'r cludiant dyngarol cyntaf yn gadael Casnewydd ddydd Sadwrn 5 Mawrth.