Gwibio i'r prif gynnwys

Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn hynod falch o dderbyn statws Uned Hybu Ysgolion Arddangos Microsoft yn gydnabyddiaeth o’i ymrwymiad cyfredol i arloesi blaenllaw mewn datblygiad proffesiynol.

Mae’r statws Uned Hybu, sydd ond y cam cyntaf yn nhaith drawsnewidiol y coleg tuag at gael statws lawn Ysgol Arddangos Microsoft erbyn 2023, yn atgyfnerthu gweledigaeth y coleg i wthio ymlaen arweinyddiaeth, dysgu, technoleg a seilwaith digidol sy’n ysbrydoli a rhoi grym i staff ddatblygu eu gallu a’u harbenigedd mewn dysgu digidol.

Bydd hyn yn ei dro yn help i sicrhau y bydd y coleg yn cynnig yr addysgu, dysgu a chymorth gorau i ddysgwyr, gan ddefnyddio’r technolegau dysgu ac addysgu diweddaraf un i sicrhau fod pob dysgwr yn ‘barod am y dyfodol’.

Meddai Gareth Morgan, Cydgysylltydd Digidol “Mae’r coleg yn teimlo’n gyffrous iawn ein bod wedi derbyn statws Uned Hybu Ysgolion Arddangos  Microsoft. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu galluoedd a sgiliau’r staff i gyd, rhywbeth sy’n amlwg o’r niferoedd uchel o staff sydd eisoes wedi derbyn statws Ardystiedig Microsoft a statws Arbenigwr Addysgwr Arloesol Microsoft. Mae hyn oll yn cynnig sylfaen gadarn i ni nawr i adeiladu arni wrth i ni symud ymlaen ar ein taith i gael Statws Ysgol Arddangos Microsoft.”

 

Meddai Chris Ford, Cyfarwyddwr Dysgu yn y coleg “Mae addysg wedi trawsnewid llawer cynt na ragwelwyd oherwydd pandemig coronafeirws ac mae cael y statws hwn yn amlygu’r gwaith caled a gyflawnwyd gan y coleg nid yn unig i gryfhau strategaethau a seilwaith digidol y coleg  ond i wirioneddol wthio arloesi ymlaen mewn dysgu digidol.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi gwneud cynnydd mawr wrth symud yr holl ddysgwyr a staff i Microsoft Office a defnyddio Microsoft Teams fel platfform effeithiol ar gyfer dysgu o bell, cyfunol gwell. Rydym yn llawn cyffro nawr i gael y cyfle i weithio gyda’r Rhaglen Ysgol Arddangos i ddatblygu’r platfformau hyn ymhellach, dysgu gan, a rhannu, arferion da ac arloesi technolegau ac adnoddau digidol newydd i sicrhau’r profiad dysgu gorau i bawb.”

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite