Gwibio i'r prif gynnwys

Mae Rhys Davies, prentis yn Y Coleg Merthyr Tudful a Tydfil Training, wedi ennill y Wobr Beirianneg yng Ngwobrau Prentisiaeth QSA 2021

 

Mae’r Wobr, sydd â’r nod o ddathlu llwyddiant prentisiaid hynod ledled y Gynghrair Sgiliau Safonol (QSA), yn gydnabyddiaeth deilwng i Rhys sydd wedi rhagori’n wirioneddol yn ystod ei gyfnod fel prentis yn General Dynamics.

Gwnaeth Rhys, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Afon Taf, greu argraff ar y panel o feirniaid o arbenigwyr diwydiant yn sgil y dyfalbarhad, y penderfyniad a’r ymrwymiad a ddangosodd yn ystod ei raglen brentisiaeth gyda General Dynamics a’r addysg yn dilyn hynny yng Nghonsortiwm Y Coleg Merthyr Tudful a Tydfil Training.

 

Dechreuodd Rhys ei hyfforddiant ar gyfer diwydiant drwy astudio Peirianneg Lefel 3 BTEC ar gwrs rhyddhau am y dydd yn Y Coleg Merthyr Tudful.  Gwnaeth Rhys ymroi ei hun yn llwyr, gan gynhyrchu gwaith o safon uchel, ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol, cymryd rhan mewn diwrnodau astudio ac unrhyw weithgareddau allgwricwlar a roddwyd iddo.  Ar ôl cwblhau ei BTEC L3, cofrestrodd gyda HNC mewn Peirianneg Fecanyddol gan lwyddo i gael Teilyngdod. Yn ystod y cyfnod hwn llwyddodd hefyd i gwblhau IOSH (Rheoli Diogelwch). Roedd Blwyddyn 2 yr HNC yn arbennig o heriol oherwydd COVID 19.  Symudwyd darlithoedd ac arholiadau ar-lein gan adael Rhys â’r cyfrifoldeb o flaenoriaethu sesiynau adolygu ochr yn ochr â gweithio’n llawn amser gyda General Dynamics.

Wrth wneud sylw am ei wobr, dywedodd Rhys “Allwn i ddim credu pan gyhoeddon nhw ‘mod i wedi ennill. Rwyf mor falch. Wnes i wneud cais am brentisiaeth am mai dyma’r llwybr gorau i mi i hybu fy ngwybodaeth yn y diwydiant heb fynychu rhaglen lawn amser mewn prifysgol. Nid oeddwn yn unig am wella fy ngwybodaeth, ond roeddwn hefyd yn awyddus i ddod wyneb yn wyneb a chael y profiad o weithio y mae prentisiaethau’n eu cynnig.  

Mae gan General Dynamics sawl cwmni yn Sbaen ac un o agweddau allweddol fy hyfforddiant oedd gallu cymryd rhan yn rhaglen Erasmus y coleg, ac fe gefais bythefnos o brofiad gwaith yn y diwydiant yng ngogledd Sbaen.  Gwnaeth y rhaglen hon gynyddu fy mhrofiad a’n hyder yn sylweddol a bu’n help i oresgyn y rhwystrau iaith. Bu hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan deithiais i Trubia yng ngogledd Sbaen gyda’r cwmni, i archwilio materion ansawdd gyda rhannau oedd yn cael eu cyflenwi gan un o’n prif gyflenwyr.

Rwyf wedi mwynhau’n fawr fy nghyfnod yn y coleg, gyda Tydfil Training a gyda General Dynamics.  Mae’r rhaglen brentisiaeth yn sicr wedi’n helpu fi i ddod yn weithiwr hyderus, cymesur gyda’r gallu i ymdrin ag unrhyw sefyllfa a all godi o ddydd i ddydd.”

Dywedodd Bina Taylor, HR cynrychiolydd AD yn General Dynamics “Rwyf wrth fy modd dros Rhys. Yn ystod ei brentisiaeth mae wedi gwneud sawl cyfraniad yn ei swyddogaeth. Gan mai’r rhaglen brentisiaeth oedd y gyntaf ar safle Merthyr, bu’n rhaid dysgu’n gyflym iawn, nid y prentisiaid yn unig ond hefyd y swyddogaethau cynnal.  Llwyddodd Rhys wneud hyn yn gadarnhaol drwy gwblhau ei brentisiaeth yn ogystal ag yn ei waith. Beth bynnag fo’r tasgau a roddir i Rhys, mae bob amser yn unigolyn cadarnhaol a hyderus iawn ac mae bob amser yn cwblhau ei waith i safon uchel  ac ar amser, boed hynny’n gymorth ar lawr y ffatri neu’n cynhyrchu dogfennau.

Yn haeddiannol cafodd ei ddyrchafu’n Dechnegydd Peirianneg a bydd nawr yn cael y cyfrifoldebau ychwanegol sy’n dod gyda’r swydd.”

Meddai Paul Gray, Prif Weithredwr Tydfil Training “Hoffwn longyfarch Rhys yn ddidwyll. Rydym i gyd mor hynod falch ohono. Mae Consortiwm Y Coleg a Tydfil Training wedi ymrwymo i gydweithio â chyflogwyr a sefydliadau lleol i ddarparu hyfforddiant addas a pherthnasol mewn diwydiant a rhaglenni prentisiaeth ac mae llwyddiant Rhys yn tynnu sylw at lwyddiant y rhaglenni hyn a’r modd y gallant wneud gwahaniaeth."

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite