Gwibio i'r prif gynnwys

Mae’r Coleg Merthyr Tudful heddiw wedi lansio’n swyddogol ei hystafell hapchwarae e-chwaraeon newydd sbon.

Mae gan y cyfleuster penodedig newydd, a fydd yn rhoi cymorth i gyfleu cymhwyster e-chwaraeon BTEC y coleg ynghyd â gweithredu fel lleoliad hapchwarae a chystadlaethau Tîm E-chwaraeon Prydain y coleg, 25 gorsaf hapchwarae newydd sbon a monitorau perfformiad, cadeiriau hapchwarae Nitro Concepts, offer ffrydio byw a theledu sgrin gyffwrdd fawr.

Drwy astudio ar e-chwaraeon BTEC Pearson, caiff dysgwyr gyfle i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy mewn hyfforddi a digwyddiadau, busnes, cyllid, arweinyddiaeth, gwaith tîm, sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, seiber, digidol a mwy, gan sicrhau y byddant yn gymwys i symud ymlaen i’r cyfleoedd gyrfa niferus o fewn y diwydiant hwn sy’n tyfu.

Bydd y cyfleuster hefyd yn cynnig cyfleodd i gefnogi e-chwaraeon llawr gwlad yn y gymuned ehangach, gan gynnig sesiynau allgymorth a blasu a rhaglenni i ysgolion lleol, grwpiau cymuned a chyrff mwy, gyda’r nod o greu diwylliant ac ethos e-chwaraeon gwirioneddol yn y coleg.

Caiff dysgwyr ar y rhaglen e-chwaraeon hefyd gyfle i gynrychioli tîm e-chwaraeon y coleg mewn cystadlaethau a thwrnameintiau.

 

Wrth agor yr ystafell dywedodd  Rheolwr Digwyddiadau Ar-lein G2 a’r arwr hapchwarae Jake Murton – neu JakeBoyPro fel y’i hadwaenir “Mae mor wych cael bod yma heddiw i lansio’r ystafell hapchwarae newydd, anhygoel yn swyddogol. Mae cael cyfleuster fel hwn ar gael i ddysgwyr yn gwbl wych. Bydd yn gyfleuster ac yn amgylchedd hynod werthfawr i’w helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r technegau hapchwarae sy’n berthnasol i’r diwydiant a’u cymhwyso ar gyfer gyrfa yn y diwydiant ffyniannus hwn.

 

Rwyf i’n brawf o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant hwn. Dechreuais gyda diddordeb mewn hapchwarae sydd bellach wedi ‘ngweld i’n datblygu fy sgiliau a llwyddo cael swyddogaeth o fewn un o’r brandiau e-chwaraeon ac adloniant mwyaf blaenllaw yn y byd.”

 

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Prifathrawes y Coleg, Lisa Thomas “Rydym yn hynod falch o fod yn lansio’r cyfleuster hapchwarae newydd sbon, diweddaraf un hwn, a chwrs e-chwaraeon i ddysgwyr.  Gyda’r diwydiant e-chwaraeon yn debygol o fod yn werth $1.79 biliwn yn 2022 ac yn parhau i dyfu, rydym yn edrych ymlaen at gael cefnogi dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth allweddol maent eu hangen er mwyn symud ymlaen yn llwyddiannus i’r amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael mewn e-chwaraeon a diwydiannau digidol eraill sydd ynghlwm.”

 

“O ddarlledu a chynhyrchu i hyfforddi, rheoli, newyddiadura, Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnata, cyfryngau cymdeithasol neu hapchwarae proffesiynol, mae’r cyfleoedd gyrfa yn aruthrol.

 

“I’r dysgwyr hynny sydd efallai’n awyddus i symud ymlaen yn syth i wneud gradd neu brentisiaeth safon uwch, rydym hefyd yn cydweithio’n agos gyda Phrifysgol De Cymru i ddatblygu Gradd Sylfaen E-chwaraeon newydd a fydd, yn amodol ar ddilysu, yn cael ei lansio yn y coleg ym mis Medi 2022. Bydd y radd, y gyntaf o’i bath yn ne Cymru, yn cynnig cyfle i ddysgwyr i hybu eu sgiliau a’u gwybodaeth yn y maes yma a chael cymhwyster lefel 5.”

 

Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip “Rwy’n hynod falch o gael ymuno yn agoriad y cyfleuster e-chwaraeon newydd hwn yn y coleg. Mae e-chwaraeon yn ddiwydiant sy’n tyfu ac mae’n wych iawn gweld y modd mae’r coleg wedi buddsoddi mewn cyfleusterau i gefnogi datblygu sgiliau’r dyfodol yn y maes hwn.”

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite