Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn gyffro i gyd wrth lansio Rhaglen Chwaraeon, Cyflogaeth, Hyfforddi ac Uwchsgilio (SETUP) newydd sbon mis Medi yma.
Yn gweithio mewn partneriaeth â Heini Merthyr Tudful, bydd y rhaglen yn cynnig rhaglen hyfforddi ac addysgu unigryw ac effeithiol ble gall dysgwyr lwyddo i gyrraedd eu dyheadau academaidd ochr yn ochr â chael lleoliadau hynod werthfawr ac ymwybyddiaeth mewn diwydiant a fydd yn eu helpu i symud ymlaen yn llwyddiannus i gyflogaeth neu astudiaethau lefel uwch mewn hyfforddi chwaraeon.
Bydd y rhaglen, y gyntaf o’i bath yn y rhanbarth lleol, yn cynnig llinyn ‘cyflogadwyedd’ newydd sbon i gwrs Hyfforddi Chwaraeon BTEC Lefel 3 presennol y coleg, gan alluogi dysgwyr i gael gwybodaeth hynod werthfawr am y diwydiant a’r sector penodol, sgiliau a phrofiad, a chynnig y gwerth ychwanegol fyddant ei angen i fod yn wahanol i bawb arall a sicrhau cyflogaeth neu le mewn prifysgol yn y dyfodol.
Wedi’i seilio ar dri llinyn, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o’r diwydiant a’r sector chwaraeon drwy ddarlithoedd, siaradwyr gwadd, ymweliadau a lleoliadau.
Er hynny, elfen bwysicaf y rhaglen newydd hon fydd y cyfle i ddysgwyr fynd ar leoliadau o ansawdd uchel yn y gymuned drwy rwydwaith Heini Merthyr Tudful o ddarparwyr, gan roi cyfle iddynt weithredu’r theori, y wybodaeth a’r sgiliau maent yn cael yn yr ystafell ddosbarth ac ar yr un pryd yn ehangu eu dealltwriaeth o’r gyrfaoedd sydd ar gael yn y sector hwn.
Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfle i gyflawni cymwysterau ychwanegol i ategu ac ychwanegu at eu BTEC lefel 3, yn cynnwys Arweinwyr Chwaraeon, Cymorth Cyntaf, diogelu, hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd a Llythrennedd Corfforol.
Dywedodd Sarah Kerrigan, Pennaeth Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yn y coleg “Rydym mor falch o gael cymorth Heini Merthyr Tudful i allu cyfleu’r rhaglen unigryw hon. Bydd y wybodaeth am y diwydiant chwaraeon a’r cysylltiadau â chyflogwyr y byddant yn cynnig i’r rhaglen yn sicrhau y bydd pob dysgwr yn cael y profiad gorau posib a’r profiad y byddant eu hangen i’w helpu i symud ymlaen yn llwyddiannus i gael swyddi hyfforddi ac eraill yn y byd chwaraeon. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld ein dysgwyr cyntaf yn ymuno â’r rhaglen ym mis Medi.”
Meddai Dan Bufton, Rheolwr Datblygu Chwaraeon yn Heini Merthyr Tudful “Mae Heini Merthyr Tudful yn hynod falch o gefnogi menter SETUP newydd Y Coleg Merthyr Tudful ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at weld dysgwyr yn dod i gymryd rhan yn y rhaglen.
Yn ystod yr argyfwng coronafeirws, mae pwyslais cynyddol wedi bod ar bwysigrwydd cyfranogi mewn chwaraeon ac ymarfer a’r manteision cadarnhaol y gall hyn gael ar iechyd meddwl a llesiant. Wrth i’r diwydiant ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd, bydd hyn yn debygol o arwain at dwf mewn cyfleoedd gwaith ledled y sector. Bydd y rhaglen hon yn cynnig y cyfle delfrydol i gymhwyso’n dysgwyr gyda’r sgiliau a’r profiad y byddant eu hangen i fanteisio ar y cyfleodd hyn a symud ymlaen yn llwyddiannus i yrfaoedd hyfforddi neu rai sy’n seiliedig ar chwaraeon.”
Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am ein Cwrs Chwaraeon BTEC Lefel 3, ewch i: https://bit.ly/3AN5aFo