Y Coleg Merthyr Tudful – eich dewis cyntaf am addysg bellach!
Pob lwc i bawb sy’n disgwyl eu canlyniadau TGAU a lefel 2 terfynol ar 12 Awst.
Os ydych yn ystyried symud ymlaen i addysg bellach mis Medi yma, mae’r coleg yma ar eich cyfer!
Gyda dewis o dros 100 o gyrsiau o lefel A i gyrsiau galwedigaethol, cyfraddau llwyddiant ardderchog, cymorth dysgu a bugeiliol eithriadol a rhaglen brofiad gwaith a chyfoethogi ardderchog, fu erioed amser gwell i astudio yn ein coleg sydd wedi ennill sawl gwobr.
Os ydych yn gwybod beth ydych am astudio neu beidio, mae ein tîm arbenigol o gynghorwyr derbyniadau a thiwtoriaid pwnc yma i’ch helpu a’ch cynghori ar opsiynau cwrs a sicrhau eich bod yn mynd ar y cwrs sy’n iawn i chi.
Mae ein cenhadaeth yn ymwneud llawer â thrawsnewid bywydau drwy weithio mewn partneriaeth ac rydym yn cydweithio’n agos gyda chyflogwyr, prifysgolion a sefydliadau allanol lleol i sicrhau fod ein dysgwyr yn cael gafael ar y gorau oll, cwricwlwm sy’n berthnasol i ddiwydiant ac yn seiliedig ar sgiliau’r dyfodol, addysgu a dysgu, cymorth, rhaglenni adnoddau a chyfoethogi, yn eich galluogi i gael y cymhwyster o’ch dewis a symud ymlaen yn llwyddiannus i astudio ymhellach neu’n uwch neu gyflogaeth.
Mae ein canlyniadau’n tystio i hyn. Am y saith mlynedd ddiwethaf yn olynol rydym wedi llwyddo cael cyfradd basio lefel A o 99% – gan ein gwneud yn un o’r colegau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru!
Cawsom hefyd ganlyniadau ardderchog ledled ein cyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau, gyda sawl maes yn llwyddo cael cyfradd o 100% – felly gallwch fod yn sicr y bydd pa bynnag gwrs fyddwch yn ei ddewis, byddwch yn cael y profiad addysgu a dysgu o’r safon uchaf.
Mae Maidie Hope Davies newydd orffen ei lefel A yn y coleg. Llwyddodd Maidie, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Afon Taf, gael A a 3B. Dywedodd “Rwyf wedi mwynhau’n fawr fy nghyfnod yn y coleg gan fy mod wedi gallu astudio’r pynciau oedd gen i fwyaf o ddiddordeb ynddynt, er mwyn mynd ar y llwybr gyrfa o’m dewis. Er bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd gyda’r dysgu ar-lein, rwy’n teimlo fod y coleg wedi cynnig cymorth gwych i ni er mwyn gwella ein graddau gwaith drwy gadw dysgu ar-lein mor rhyngweithiol ac ymgysylltiol â phosib. Fy nghynllun i yw parhau fy nhaith academaidd ym mhrifysgol Caerwysg, yn astudio Marchnata a Rheoli, a fyddai wedi bod yn amhosib heb anogaeth a chymorth yr adran fusnes yn y coleg. Byddwn yn argymell y coleg yn frwd i unrhyw un sy’n ystyried symud ymlaen i addysg bellach y mis Medi hwn.
Peidiwch ag oedi, cymerwch y cam nesaf yna tuag at eich llwybr gyrfa yn y dyfodol a gwnewch gais nawr drwy fynd i www.merthyr.ac.uk neu ffoniwch i siarad ag un o’n tîm derbyniadau ar 0800 1693825.