Gwibio i'r prif gynnwys

Y COLEG MERTHYR TUDFUL YN DATHLU BLWYDDYN ARALL O LWYDDIANT LEFEL A A GALWEDIGAETHOL EITHRIADOL

Roedd llongyfarchiadau i’w clywed ym mhobman y bore ‘ma wrth i staff a dysgwyr yn Y Coleg Merthyr Tudful ddathlu cyfres o ganlyniadau lefel A a galwedigaethol eithriadol mewn blwyddyn a fu’n hynod heriol.

Am y seithfed flwyddyn yn olynol, llwyddodd y dysgwyr gael canlyniadau lefel A a galwedigaethol eithriadol, gan roi seiliau cadarn i bennod nesaf eu gyrfaoedd.

 

Gan gadarnhau ei safle fel un o brif golegau Cymru, llwyddodd y coleg gael cyfradd basio Lefel A gyfan gwbl (A*-E) o 99%, gyda 41% o’r myfyrwyr yn cael y graddau uchaf  A*-A.

 

Gydag ymrwymiad brwd dros wella ansawdd a phrofiad addysgu a dysgu’n gyffredinol, cynyddodd canran y dysgwyr a gafodd raddau  A*-C hefyd i 86% eleni – i fyny o 4% ers 2020, a 12% o’i chymharu â 2019.

 

Ychwanegwyd at y llwyddiant hwn gan ddysgwyr galwedigaethol, gyda mwy o’r graddau uchaf nag erioed o’r blaen yn cael eu dyfarnu ymhob man.

 

Meddai Lisa Thomas, y Brifathrawes: “Bu eleni’n flwyddyn nas gwelwyd ei thebyg ac rydym wrth ein bodd fod y coleg wedi rhagori ar ei safonau, oedd eisoes yn uchel, gyda chyfres o ganlyniadau Lefel A a galwedigaethol hynod lwyddiannus. Dangosodd ein dysgwyr a’n staff ddyfalbarhad, cryfder a dyhead anhygoel dros yr ychydig fisoedd diwethaf ac rwyf i mor falch o bob copa walltog yn y modd maen nhw wedi dygymod â heriau dysgu cyfunol a strwythur asesu gwahanol i gael canlyniadau mor anhygoel. Maen nhw’n glod i’r coleg, eu teuluoedd ac i’w hunain ac rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw i gyd ar gyfer eu dyfodol”

Roedd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip yn bresennol yn y coleg i weld y dathliadau llawen wrth i’r dysgwyr dderbyn eu canlyniadau. Meddai Dawn, sydd hefyd yn AS Merthyr Tudful a Rhymni, “Rwyf mor falch o gael bod yma’r bore ‘ma i weld drosof fy hun y canlyniadau ardderchog mae’r dysgwyr wedi’u cael, er gwaetha’r flwyddyn heriol maen nhw wedi’i chael.”

Un o’r dysgwyr oedd disgwyl yn eiddgar am ei chanlyniadau a chadarnhad o’i lle ym Mhrifysgol Caergrawnt oedd cyn-ddisgybl Cyfarthfa, Mackenzie Vinnicombe. Llwyddodd Mackenzie gael canlyniadau anhygoel; A* mewn Mathemateg, A* mewn Hanes, A* mewn Seicoleg ac A mewn Bioleg, a gall nawr symud ymlaen i astudio Gwyddoniaeth Seicolegol ac Ymddygiadol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

 

Wrth wneud sylwadau am ei chanlyniadau, dywedodd Mackenzie “Rwyf mor ddiolchgar am yr help a’r cymorth a gefais gan Goleg Merthyr, o ysgrifennu fy natganiad personol i’r broses gyfweld ar gyfer Prifysgol Caergrawnt. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i Nicola a’r adran Seicoleg a gredodd y gallwn i lwyddo pan oedd gen i f’amheuon fy hun ac am fy mentora drwy gydol y broses. Allwn i ddim bod yn hapusach.”

Roedd dysgwyr STEM y coleg ymhlith y rhai o’r coleg a wnaeth orau.

Cafodd Nadia Marshall, cyn-ddisgybl Ysgol Lewis, ganlyniadau eithriadol;  4 A* mewn Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Ffiseg ac mae nawr yn edrych ymlaen at fwynhau blwyddyn i ffwrdd cyn mynd i astudio meddygaeth mewn prifysgol.

 

Wrth wneud sylwadau am ei phrofiad yn y coleg, dywedodd Nadia “Fe wnes i wirioneddol fwynhau fy amser yn y coleg. Roedd fy nhiwtoriaid cwrs yn anhygoel ac yn fy nghymell bob amser i weithio’n galed.”

Meddai rhieni Nadia, oedd wrth eu bodd gyda’i chanlyniadau “Rydyn ni mor falch fod ein merch Nadia wedi penderfynu sefyll ei Lefel A yng Ngholeg Merthyr. Mae’r cymorth a’r anogaeth a gafodd wedi bod yn eithriadol."

 

Llwyddodd Amina Hameed, cyn-ddisgybl Ysgol Gymunedol Aberdâr, gael canlyniadau anhygoel; 3A* ac A, gan roi’r graddau oedd eu hangen arni i symud ymlaen i astudio Deintyddiaeth ym Mhrifysgol Manceinion.

 

Wrth wneud sylwadau am ei phrofiad yn y coleg, meddai Amina “Rwyf wedi cael amser gwych dros y 2 flynedd a hoffwn ddiolch i chi i gyd fel staff am wneud y coleg yn lle gwell yn gyson i ni fyfyrwyr. Rwyf wedi cael yr amser gorau yn y coleg.”

Hefyd yn dathlu wrth ochr Amina oedd Erica Mariano.

Cafodd Erica, cyn-ddisgybl Ysgol Esgob Hedley, A* mewn Mathemateg, A* mewn Cemeg, A mewn Bioleg ac A yn ei Phrosiect Estynedig.

Meddai Erica, sydd nawr am symud ymlaen i astudio Gwyddoniaeth Fiofeddygol yng Ngholeg Kings Llundain “Gwnaeth y gymuned yng Ngholeg Merthyr i mi deimlo fod gen i gymaint o gymorth ym mhob agwedd o ‘nysgu. Rwyf mor ddiolchgar i’r athrawon a barhaodd mor frwdfrydig er gwaetha’r amgylchiadau gan gynnig gymaint o ganllawiau ag y gallent tra’r oeddem ni’n addasu i ddysgu ar-lein. Mae’r profiad hwn wedi fy helpu i adael gyda’r hyder i symud ymlaen i addysg bellach i ddilyn gyrfa yn y maes meddygol.”

Llwyddodd Cris Dignadice, hefyd yn gyn-ddisgybl Ysgol Esgob Hedley ac yn ddysgwr STEM yn y coleg, gael A* mewn Ffiseg ac A* mewn Mathemateg Bellach. Roedd Cris, sy’n un o ddysgwyr MAT y coleg, hefyd yn ffodus i gael lle yn Ysgol Haf Deallusrwydd Artiffisial Prifysgol Stanford a dywedodd “Gwnaeth fy nhiwtoriaid yn y coleg roi cymorth i mi lwyddo cael lle yn Rhaglen Deallusrwydd Artiffisial Prifysgol Stanford. Rwyf wedi bod mor ddiolchgar am gael y cyfle i gymryd rhan yn y rhaglen hon ble’r oeddwn yn gallu dysgu a mynegi fy hun mewn maes a allai gael effaith fawr ar ein dyfodol.”

 

Cafodd Fabio Tomasi, cyn-ddisgybl Ysgol Esgob Hedley, A* mewn Mathemateg, A mewn Bioleg, A mewn Cemeg a B mewn Ffiseg. Mae Fabio wedi llwyddo cael lle i astudio Niwrowyddoniaeth yng Ngholeg Kings Llundain, a dywedodd “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, oherwydd Covid-19, doedden ni ddim yn gallu gwneud llawer o bethau ag y byddem fel arfer, ond ymdrechodd yr athrawon yn galed gyda’r gwersi, ar-lein ac wyneb yn wyneb fel ei gilydd, a gwneud iawn am hynny. Rwy’n teimlo’n wirioneddol ddiolchgar a breintiedig am ddewis dod i’r Coleg.” 

Mae Shay Mullin yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Pen y Dre a hefyd yn un o Lysgenhadon Ymddiriedolaeth Peirianwyr y Dyfodol Panasonic Peirianneg Cymoedd De Cymru y coleg. Llwyddodd gael canlyniadau eithriadol; A* mewn Mathemateg, A mewn Ffiseg ac A mewn Cymraeg, gan roi’r graddau y mae eu hangen i symud ymlaen i astudio Gwasanaeth Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol ym Mhrifysgol De Cymru.

 

Mae Ma Katharina Villanueva hefyd yn un o Lysgenhadon Ymddiriedolaeth Peirianwyr y Dyfodol Panasonic Peirianneg Cymoedd De Cymru y coleg ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Esgob Hedley.  Cafodd 3 A* mewn Mathemateg Bellach, Cemeg a Ffiseg gan roi’r graddau oedd eu hangen arni i symud ymlaen i astudio peirianneg gemegol mewn prifysgol.

 

Wrth wneud sylwadau am ei chyfnod yn y coleg, dywedodd Ma Katharina “Rwy’n credu fy mod wedi tyfu’n sylweddol ac wedi fy nghyfoethogi gyda gwybodaeth eang. Gallaf symud ymlaen ar fy nhaith oherwydd y canllawiau a gefais yn y coleg sydd wedi fy nghynnal gydag ymdrech fawr o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.”

Yn dathlu gyda Katharina oedd Julia Zatorska. Mae Julia hefyd yn gyn-ddisgybl Ysgol Esgob Hedley ac yn Llysgennad Ymddiriedolaeth Peirianwyr y Dyfodol Panasonic Peirianneg Cymoedd De Cymru. Cafodd Julia A* mewn Mathemateg, A* mewn Mathemateg Bellach, A* mewn Ffiseg ac A* mewn Cemeg. Mae nawr yn symud ymlaen i astudio mathemateg ym Mhrifysgol Bath.

 

Meddai Julia, sydd wedi mwynhau ei chyfnod yn y coleg yn fawr a’i swyddogaeth fel llysgennad PTFEA “Mae’r staff yn y coleg mor gefnogol. Eu nod yw cael y budd mwyaf ohonoch a’ch dysgu i sut i anelu’n uchel a thu hwnt.”

 

Cafodd Bethany Blackmore, Dysgwr STEM a chyn-ddisgybl Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr, A* mewn Mathemateg, A* mewn Cemeg, A mewn Bioleg ac A mewn Daearyddiaeth. Meddai Bethany, sydd nawr am fynd i astudio Cemeg ym Mhrifysgol St Andrews “Fe wnes i wirioneddol fwynhau fy nghyfnod yn y coleg. Gwnaeth y tiwtoriaid roi cymorth i mi drwy gydol fy astudiaethau gan roi llawer o ymdrech i wneud gwersi ar-lein yn ymgysylltiol a rhyngweithiol.”

 

Cafodd dysgwyr y Dyniaethau ganlyniadau arbennig o dda hefyd. Un o’r dysgwyr oedd yn disgwyl ei chanlyniadau’n eiddgar oedd Molly Evans. Llwyddodd Molly, cyn-ddisgybl Ysgol Gymunedol Aberdâr, gael A* mewn Hanes, A* mewn Astudiaethau Crefyddol, A mewn Llenyddiaeth Saesneg a B yn ei Phrosiect Estynedig, gan ei galluogi i wireddu’i breuddwyd o symud ymlaen i Brifysgol Rhydychen i astudio Iaith a Llenyddiaeth Saesneg.

 

Dywedodd Molly “Rwyf wirioneddol yn ddiolchgar am yr holl gymorth rwyf wedi’i dderbyn gan bawb yng Ngholeg Merthyr. Rwyf mor hapus gyda fy ngraddau, ac yn gyffrous ynghylch pennod nesaf fy astudiaethau yn Rhydychen.”

Cafodd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Katie Morgan, ganlyniadau eithriadol gyda 3 A* mewn Hanes, Seicoleg a’r Gyfraith.

Llwyddodd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Afon Taf, Sophie Harvard, hefyd 3 A* mewn Hanes, Llenyddiaeth Saesneg a Drama a nawr mae’n anelu am Brifysgol Caerdydd i astudio Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant.

 

Wrth wneud sylwadau am ei chyfnod yn y coleg, dywedodd Sophie “Mae Coleg Merthyr wedi rhoi’r cyfle i mi i ganolbwyntio nid yn unig ar y pynciau rwy’n angerddol amdanynt ond y pynciau a fydd yn berthnasol i ragolygon fy ngyrfa yn y dyfodol. Rwyf wirioneddol wedi mwynhau fy nghyfnod yn y coleg ac rwy’n credu y bydd fy mhrofiadau yno o fudd i fy nghamau nesaf yn y dyfodol.”

Ymhlith y rhai a gafodd lwyddiant mawr oedd cyn-ddisgybl Ysgol Pen y Dre, Niamh Winstone, a gafodd A* yn y Gyfraith, A* mewn Hanes ac A mewn Drama ac Astudiaethau Theatr. Mae Niamh nawr yn symud ymlaen i astudio Gradd yn Y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Llwyddodd Maidie Hope-Davies, hefyd yn ddysgwr A2 ac yn gyn-ddisgybl Afon Taf, gael A a 3B, gan roi’r graddau oedd angen arni i symud ymlaen i astudio Marchnata a Rheoli ym Mhrifysgol Caerwysg. Dywedodd Maidie, oedd ar ben ei digon gyda’i chanlyniadau “Rwyf wedi llwyr fwynhau fy nghyfnod yn y coleg gan ‘mod i wedi gallu astudio’r pynciau oedd gen i fwyaf o ddiddordeb ynddynt, er mwyn mwyn mynd ar y llwybr gyrfa o’m dewis. Er bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd gyda’r dysgu ar-lein, rwy’n teimlo fel bod y coleg wedi cynnig cymorth gwych i ni i wella ein graddau gwaith drwy gadw dysgu ar-lein mor rhyngweithiol ac ymgysylltiol â phosib. Fy nghynllun i yw parhau ar fy nhaith academaidd ym Mhrifysgol Caerwysg, yn astudio Marchnata a Rheoli, rhywbeth na fyddai wedi bod yn bosib heb anogaeth a chymorth yr adran fusnes yn y coleg.”

 

Yn dathlu gyda Maidie oedd cyn-ddisgybl Afon Taf, Louise Isaac. Cafodd Louise A mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, A mewn Busnes a B mewn Hanes.

 

Dywedodd Louise, sydd nawr yn symud ymlaen i astudio Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerdydd, “Roeddwn wedi synnu’n llwyr am beth oeddwn yn dal i allu cyflawni dros y ddwy flynedd unigryw ddiwethaf o ‘mywyd. Roeddwn methu credu ac yn syn i gael gwybod y byddwn yn mynd i brifysgol fy mreuddwydion, ar ôl poeni os byddwn yn cael y graddau angenrheidiol. Alla i ddim diolch digon i’r tiwtoriaid yn y coleg am eu cymorth parhaol drwy’r cyfnod. Mae mor gyffrous fy mod yn dechrau’r bennod nesaf.”

Yn dathlu gyda Louise oedd Angel Medd. Llwyddodd Angel, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, gael canlyniadau eithriadol; 3A* mewn Hanes, Drama a Seicoleg.

Un arall o ddysgwyr disgleiriaf Cyfarthfa oedd Hanna Prosser. Llwyddodd Hanna’n anhygoel drwy gael A* mewn Mathemateg, A mewn Bioleg, A mewn Cemeg a B mewn Ffiseg.

Cafodd Lucy Evans, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, A* mewn Hanes, A mewn Busnes, A mewn llywodraeth a Gwleidyddiaeth a B mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Yn dathlu gyda Lucy oedd Tiegan Chambers, Llinos Cope a Kristi Evans. Cafodd Tiegan A* mewn Hanes, A mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ac A mewn Seicoleg. Cafodd Llinos A mewn Mathemateg a B mewn Ffiseg a llwyddodd Kristi gael A* mewn Hanes, A mewn Daearyddiaeth ac A mewn Astudiaethau Crefyddol.

Mae Evan Price yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Afon Taf ac yn Enillydd Gwobrau Academi Frenhinol Peirianneg ac Ymddiriedolaeth Peirianwyr y Dyfodol Panasonic. Mae Evan nawr yn symud ymlaen i astudio cwrs Peirianneg Fecanyddol mewn prifysgol ar ôl cael canlyniadau lefel A gwych.

Wrth wneud sylwadau am ei ganlyniadau a’i gyfnod yn y coleg, dywedodd Evan “Fe wnes i fwynhau fy nghyfnod yn y coleg yn fawr. Er ein bob i gyd wedi gorfod wynebu rhai amgylchiadau oherwydd COVID, gwnaeth yr athrawon y gwersi yn ogystal â ‘nghyfnod i yno yn bethau cofiadwy. Roeddwn yn cael cymorth nid yn unig gan fy athrawon pwnc ond hefyd gan amrywiaeth eang o staff, yn cynnwys tîm ymddiriedolaeth Panasonic. Roedd y bwrsari, ynghyd â’r cyfleoedd a gafwyd, yn help i roi hwb i’m hyder yn fy amcanion yn y maes peirianneg, gan roi’r adnoddau i mi helpu fy hunan, ac ar yr un pryd yn gwella fy neallusrwydd o’r byd peirianneg. 

Cafodd cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Pen y Dre a dysgwyr Y Dyniaethau hefyd ganlyniadau anhygoel. Llwyddodd Keira Jones gael A mewn Seicoleg a Chymdeithaseg a B mewn Cymraeg. Cafodd Arianwen Hagerty A mewn Cymraeg, B mewn Astudiaethau Crefyddol a B mewn Cymdeithaseg. Cafodd Maisy John B mewn Seicoleg a Chymdeithaseg. Llwyddodd Rachel Leigh-Warner gael A yn y Gyfraith, A mewn Seicoleg a B mewn Hanes a llwyddodd Sophie France gael A mewn Mathemateg, A mewn Cymraeg a B mewn Seicoleg.

Cafodd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Christian Morante, ganlyniadau eithriadol; A* mewn Cymdeithaseg, A* mewn Bioleg ac A mewn Cemeg.

 

Dywedodd Christian, sydd bellach wedi’i dderbyn i astudio newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Leeds, “Mae’r cymorth a gefais gan Goleg Merthyr wedi bod heb ei ail, pa un ai am fy ngwaith neu fy iechyd meddwl, rwyf bob amser wedi teimlo’n gyfforddus yn siarad gyda f’athrawon. Roedd y cymorth hwn yn parhau’n amlwg iawn yn ystod yr amgylchiadau annisgwyl a grëwyd gan y pandemig ac fe helpodd roi hwb i mi i weithio hyd eithaf fy ngallu hyd yn oed yn ystod sesiynau ar-lein. Gwnaeth hyn oll fy helpu i gael y graddau oedd angen arnaf i astudio newyddiaduraeth mewn prifysgol, rhywbeth mae fy athrawon wedi ‘nghefnogi’n llwyr i lwyddo i wneud. Byddwn yn argymell Coleg Merthyr i unrhyw un sy’n ei ystyried gan ei fod yn cynnig yr amgylchedd dysgu delfrydol i unrhyw fyfyriwr.”  

Yn dathlu gyda Christian oedd Kira Dent, hefyd yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Cafodd Kira A* mewn Cymdeithaseg, A* mewn Hanes ac A mewn Seicoleg ac mae wrth ei bodd ei bod wedi’i derbyn gan y Fyddin i astudio Gradd Nyrsio ym Mhrifysgol Birmingham. Mae Kira nawr yn bwriadu treulio dau fis yn gwirfoddoli mewn canolfan achub anifeiliaid yn Costa Rica, cyn iddi fynd ar leoliad ac astudio am ei gradd gyda’r Fyddin.

Llwyddodd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Erin Mitchell, gael 3 A mewn Hanes, Bioleg a Chemeg a llwyddodd James Morgan hefyd yn arbennig o dda drwy gael A* mewn Mathemateg, A* mewn Cemeg ac A mewn Bioleg.

Ymhlith y mwyaf llwyddiannus yn y coleg hefyd oedd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Harvey Parsons. Cafodd Harvey A* mewn Celf a Dylunio, A* mewn Bioleg, A mewn Daearyddiaeth a B yn ei Brosiect Estynedig.

Gwnaeth cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Megan Morris, hefyd yn arbennig o dda drwy gael 3 B mewn Cymdeithaseg, Bioleg, Cemeg ac A ym Magloriaeth Cymru.

Cafodd cyn-ddisgybl Rhydywaun a dysgwr Y Dyniaethau, Gwen Pinch, 2 C yn ei lefel A Seicoleg a Chymdeithaseg.

Bu dysgwyr AS yn y coleg hefyd yn dathlu canlyniadau ardderchog gyda chyfradd basio A-C o 74%.

Cafodd dysgwr AS a chyn-ddisgybl Ysgol Idris Davies, Hollie Morgan, 4 A mewn Cymdeithaseg, y Gyfraith, Hanes a Seicoleg. Dywedodd Hollie, sydd ar hyn o bryd yn gadeirydd ein Senedd Dysgwyr, “Ers ymuno â’r coleg ym mis Medi 2020, rwy’n ei gael yn amgylchedd croesawgar, cynhwysol ac anogol i ddysgu ynddo. Mae’r staff yn y coleg wedi cynnig cymorth academaidd a llesiant i bob myfyriwr drwy gydol heriau’r flwyddyn academaidd ddiwethaf. Rwy’n edrych ymlaen at gael parhau fy astudiaethau A2 yn Y Coleg Merthyr Tudful ym mis Medi gyda’r gobaith o gael astudio’r Gyfraith mewn prifysgol yn 2022.”

Yn ogystal â rhoi o’i hamser fel aelod o Senedd Dysgwyr y coleg, llwyddodd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Niamh Broad, gael canlyniadau AS anhygoel sef 3A a B. Meddai Niamh, sy’n un o ddysgwyr MAT y coleg, “Mae bod yn un o ddysgwyr MAT yng Ngholeg Merthyr wedi bod yn un o brofiadau gorau fy mywyd. Mae’r cymorth a gefais gan fy nhiwtoriaid coleg a ‘nhiwtor dosbarth wedi bod yn ddigymar. Mae’r cymorth academaidd a bugeiliol fel ei gilydd wedi bod yn anhygoel! Y rheswm pam y penderfynais astudio 4 lefel A oedd oherwydd bod mwy o bynciau oedd, i mi, yn ddiddorol ac yn hwyl ar gael i’w hastudio ym Merthyr nac mewn unrhyw goleg arall yn y cyffiniau. Rwy’n teimlo fy mod yn bendant wedi gwneud y penderfyniad iawn i astudio yma. Rwy’n mwynhau fy mhynciau i gyd ac rwy’n gweithio’n hyderus wrth hefyd gydbwyso bywyd cymdeithasol a gwaith. Byddwn yn bendant yn argymell astudio yng Ngholeg Merthyr i unrhyw un sy’n ystyried astudio yma! Mae cymaint o ddewis o bynciau, gwersi atyniadol a llawer o hwyl wrth wneud hynny!!

Llwyddodd cyn-ddisgybl Cyfarthfa, Emily Strudwick, hefyd ganlyniadau AS ardderchog, sef A* mewn Mathemateg Bellach, A mewn Mathemateg, A yn y Gyfraith ac A mewn Cymraeg.

Gwnaeth dysgwyr galwedigaethol hefyd yn arbennig o dda gyda llawer yn cael y graddau seren ragoriaeth uchaf.

Cafodd cyn-ddisgybl Ysgol Gymunedol Aberdâr, Kallum Griffiths, D*D*D* yn ei gwrs Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3. Wrth wneud sylwadau am ei ganlyniadau a’i brofiad yn y coleg dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dywedodd Kallum “Yn ystod fy nghyfnod yn Y Coleg Merthyr Tudful cefais staff croesawgar a chyfeillgar oedd, drwy gydol y cwrs, ar gael i roi cymorth a chyngor i mi yn fy ngwaith, drwy fy nghefnogi a ‘ngalluogi i gael y graddau a gefais. Gyda chymorth y coleg, rwyf nawr wedi gallu cael lle mewn prifysgol i astudio hanes, gan obeithio y gallaf fod yn athro hanes yn y dyfodol.”

 

Yn dathlu gyda Kallum oedd dysgwr Gwasanaethau Cyhoeddus a chyd-ddisgybl, Tom Moran. Dywedodd Tom, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Gatholig Esgob Hedley, sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, “Mae fy nghyfnod yn y coleg wedi bod yn wych cyn belled, rwyf wedi cael cymorth dysgu sydd wedi bod yn gyfle gwych i mi ffynnu gyda fy sgiliau academaidd.”

 

Wrth wneud sylwadau am ei brofiad yn y coleg, dywedodd mam Tom, Rhian Moran “Mae’r Coleg wedi rhoi cymorth i ‘mhlentyn gyda’i anghenion dysgu i roi cyfle iddo gyrraedd ei nod o gael Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 ac i ailsefyll ei TGAU.”

Hefyd yn llwyddo i gael tair seren ragoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus oedd cyn-ddisgybl Esgob Hedley, Maciej Zatorski. Mae Maciej nawr yn symud ymlaen i astudio Plismona Proffesiynol ym Mhrifysgol De Cymru.

 

I ddod â dwy flynedd o waith caled i ben, oedd yn cynnwys ymhlith pethau eraill, cynrychioli’r coleg fel llysgennad Myfyrwyr, llwyddodd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Lewis Palmer gael D*D*D yn ei gwrs Gwasanaethau Cyhoeddus BTEC Lefel 3.

 

Cafodd cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Afon Taf, Sophie Thomas, D*D*D* ar ei chwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC ac mae wedi llwyddo cael y canlyniadau oedd eu hangen i symud ymlaen i astudio Geneteg a Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

 

 

Wrth wneud sylwadau am ei chanlyniadau, rhoddodd Sophie deyrnged i’r addysgu a gafwyd yn y coleg “Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb; rwy’n teimlo’n ffodus fy mod wedi gallu derbyn addysg wych gan fy nhiwtoriaid cwrs sydd wedi’i gwneud yn bosib i mi, ac eraill, gael y canlyniadau roeddem eu hangen i symud ymlaen i astudio a gwneud beth ydym ni eisiau ei wneud nesaf.”

Yn dathlu gyda Sophie oedd Courtney Stewart ac Emily Cunningham. Llwyddodd Courtney gael tair seren ragoriaeth yn ei chwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC lefel 3, gan roi’r graddau oedd eu hangen arni i symud ymlaen nawr i astudio Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Llwyddodd Emily Cunningham hefyd i gael tair seren ragoriaeth ac mae nawr yn symud ymlaen i astudio Nyrsio Milfeddygol ac Ymddygiad Anifeiliaid Anwes ym Mhrifysgol Bryste.

Meddai’r tiwtor gwyddoniaeth, Mark Richards “Rwyf mor falch dros Sophie, Hana ac Emily. Maen nhw wedi gweithio’n hynod o galed i gael y canlyniadau ardderchog yma. Maen nhw’n dair o nifer o’n dysgwyr Gwyddoniaeth Gymhwysol BTEC sydd wedi derbyn cynnig i astudio mewn prifysgol, sy’n tynnu sylw at werth y cwrs a’r cyfleoedd y gall agor i ddysgwyr.”

Cafodd cyn-ddisgybl Cyfarthfa a Llysgennad Peirianneg Cymoedd De Cymru, Josh Jones, deilyngdod ym mlwyddyn 1 ei gwrs Peirianneg BTEC lefel 3. Wrth wneud sylwadau am ei ganlyniadau a’i lwyddiannau, dywedodd tad Josh, Neil Jones “Rwyf wedi bod yn llawn edmygedd o’r ffordd y gwnaeth y tiwtoriaid Peirianneg roi cymorth i fy mab dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae Josh wedi mwynhau’r cwrs yn fawr ac, er gwaethaf heriau Covid, mae’n dal wedi cael cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi ychwanegol, yn cynnwys dychwelyd i Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a chymryd rhan mewn prosiect ymgysylltu â chyflogaeth gyda disgyblion blwyddyn 8 a Newport Wafer Fab.”

Roedd cyn-ddisgyblion eraill o Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a gafodd Wobr Academi Frenhinol Peirianneg ac Ymddiriedolaeth Peirianwyr y Dyfodol Panasonic yn dathlu eu canlyniadau, yn cynnwys Jessy Jones, Finley Dummet a Hardik Malhorta.

Cafodd cyn-ddisgybl a dysgwr TG, Rio Jones, D*D*D* yn ei diploma TG BTEC lefel 3, sy’n ei galluogi nawr i symud ymlaen yn llwyddiannus i gwrs Cyfrifiadura HND yma yn y coleg. Wrth wneud sylwadau am ei chanlyniadau, dywedodd Rio “Rwy’n credu fod y flwyddyn hon wedi bod braidd yn galed i bawb ond mae’r tiwtoriaid wedi bod mor gefnogol ac wedi fy helpu i gael y gorau y gallwn ar y cwrs”

Roedd Joshua Flynn, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, hefyd yn dathlu canlyniadau galwedigaethol eithriadol, drwy gael D*D*D* yn ei gwrs Astudiaethau Busnes BTEC Lefel 3. Mae Joshua nawr yn symud ymlaen i gynllun Prentisiaeth Rhwydwaith 75 i astudio Gwasanaeth Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol. 

Wrth siarad gyda WalesOnline, dywedodd Joshua “Roeddwn i’n teimlo fod yr holl gyfnod pontio yn ddiffwdan iawn ac roedd y coleg yn hynod groesawgar o’r diwrnod cyntaf. Roedd y tiwtoriaid yn ardderchog ac fe gefais gefnogaeth lwyr ganddyn nhw i helpu fi ennill y graddau roeddwn wedi gobeithio eu cael.” 

 

Llwyddodd dysgwr Chwaraeon Lefel 3 a chyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Mackenzie Thomas, hefyd gael tair seren ragoriaeth. Wrth wneud sylwadau ar ei ganlyniadau, dywedodd Mackenzie “Mae’r cwrs wedi fy ngalluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i symud ymlaen i gwrs newyddiaduraeth chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru. Mae hefyd wedi fy helpu yn fy swyddogaeth hyfforddi yng nghlybiau pêl-droed Dinas Caerdydd, Tref Merthyr ac Ymddiriedolaeth CPC.”

Yn dathlu tair seren ragoriaeth gyda Mackenzie oedd cyn-ddisgybl Cyfarthfa, Libby Rees, a chyn-ddisgybl Ysgol Idris Davies, Leah Williams. Mae Leah nawr yn symud ymlaen i astudio Gradd Addysgu Chwaraeon ac Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Caerloyw. Wrth wneud sylwadau am ei phrofiad yn y coleg, meddai Leah “Mae’r holl diwtoriaid chwaraeon wedi bod yn hynod gefnogol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod ar y cwrs yn fawr iawn.”

 

Roedd dysgwyr Teithio a Thwristiaeth, Emily Thomas ac Ethan Scriven hefyd yn dathlu eu canlyniadau ar ôl eu blwyddyn gyntaf o astudio ar y cwrs.

 

Wrth wneud sylwadau am ei brofiad a’r cwrs, dywedodd Ethan “Mae’r cymorth rwyf wedi’i dderbyn ers i mi ddechrau yn y coleg wedi bod yn aruthrol, yn enwedig dros y 13 mis diwethaf. Os oedd gen i bryderon neu broblemau, roedd aelod o staff yno bob tro i helpu. Fy nghynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd aros yma ar gyfer fy ail flwyddyn o Deithio a Thwristiaeth. Wedi hynny, byddwn wir yn hoffi gweithio dramor o fewn y diwydiant twristiaeth.”

 

Meddai Simon Evans, Cyfarwyddwr Data a Pherfformiad “Dyma’r seithfed flwyddyn yn olynol i’n dysgwyr lefel A a galwedigaethol lwyddo i gael canlyniadau academaidd eithriadol. O un flwyddyn i’r llall rydym yn barhaol yn gwella ar ein canlyniadau, gan gael canrannau uwch o raddau A*-A a graddau A*-C a mwy o Sêr Rhagoriaeth ledled ein cyrsiau galwedigaethol. Mae’r tuedd parhaol hwn ar i fyny mewn canlyniadau yn amlygu safon uchel ac ysbrydoledig yr addysgu a’r dysgu a’r cymorth bugeilio eithriadol rydym yn eu cynnig yn y coleg ac mae hefyd yn atgyfnerthu ein safle fel un o’r colegau sy’n rhagori yng Nghymru.”

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite