Gwibio i'r prif gynnwys

Mae’r Coleg wedi ymrwymo i ddarparu addysgu a dysgu a chymorth o’r safon uchaf i sicrhau y bydd eich mab neu ferch yn gwireddu ei llawn botensial gyda ni.

Canlyniadau’r Coleg a chyfraddau llwyddiant  

Mae’r Coleg Merthyr Tudful yn parhau i gael canlyniadau ardderchog o un flwyddyn i’r llall. Yn 2020, llwyddodd y coleg nid yn unig i ragori ar ganlyniadau’r flwyddyn flaenorol i gael cyfradd basio gyffredinol lefel A (A*-E) o 100% ond gwnaethom hefyd lwyddo i wella canlyniadau ein graddau. Cynyddodd nifer y dysgwyr a gafodd raddau A* o 5% o 2019 tra bu cynnydd hefyd yn y nifer o ddysgwyr a gafodd raddau A*-A o 5%, sy’n tynnu sylw at ein hymrwymiad parhaol i wella a chodi safon addysgu a dysgu a chynnig profiad dysgu rhagorol i bawb.

Llwyddodd 82% o’n dysgwyr i gael cyfraddau A*-C, cynnydd o 6% o gymharu â graddfa basio A*-C 2019.

Yn ogystal, llwyddodd y coleg hefyd i gael cyfradd basio UG o 92%, gyda nifer y dysgwyr a gafodd gyfradd basio A-C yn codi o 1% o 65% yn 2019 i 66% yn 2020. 

Mae dysgwyr galwedigaethol hefyd yn gwneud yn eithriadol o dda yn eu hastudiaethau academaidd, gyda mwy o raddau uchaf nag erioed yn cael eu dyfarnu ymhob adran o un flwyddyn i’r llall. 

Cymorth pontio o’r ysgol i’r coleg

Bydd Y Coleg Merthyr Tudful yn brofiad newydd sbon i’ch mab/merch ac rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn cynnig gymaint o wybodaeth, cyngor a chanllawiau i roi cymorth i chi a hwythau i wneud y penderfyniad cywir ynghylch y cwrs/cyrsiau y maent am astudio yn y coleg ac i sicrhau bod y pontio rhwng yr ysgol a’r coleg mor llyfn â phosibl.

Yn ogystal â chynnig y cyfle i chi ymgysylltu â’n staff mewn digwyddiadau agored, sesiynau holi ac ateb byw, sesiynau blas ar y coleg a sesiynau holi ac ateb pwrpasol i rieni, bydd cynrychiolwyr y coleg hefyd yn mynychu nosweithiau rhieni a gwybodaeth mewn ysgolion, gan sicrhau eich bod yn cael cymaint o gyfle â phosib i siarad â ni, yn cael yr holl wybodaeth rydych ei angen ac yn gofyn cymaint o gwestiynau ag y dymunwch am y cyrsiau a’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig.

Cydweithio â chi i roi cymorth i gynnydd eich mab/merch yn y coleg

Fel ysgolion uwchradd, rydym yn croesawu ymwneud rhieni/gofalwyr a byddwn yn cydweithio â chi i sicrhau y bydd eich mab/ merch yn gwireddu eu llawn botensial. Y rheswm am hyn yw ein bod yn gwybod mai’r myfyrwyr sy’n gwneud orau yw’r rhai sy’n gwneud tri pheth:

  • Gweithio’n galed
  • Cael cymorth ac addysg gan athrawon ymroddedig o safon uchel
  • Cael cymorth ac anogaeth gan rieni

Felly, byddwn yn sicrhau’r canlynol:

  • Bydd gennych swyddogaeth lawn yn y bartneriaeth rhwng eich mab/ merch a’r coleg
  • Cewch gyfle i ddod i mewn ar ddechrau’r tymor i gwrdd â thiwtoriaid eich mab/merch
  • Cewch wybod yn syth am unrhyw achos o ddiffyg presenoldeb
  • Byddwch yn cael gwybodaeth gyflawn, gywir ac amserol gan y coleg drwy gydol y cwrs astudio o’u dewis , yn cynnwys cylchlythyron y coleg
  • Byddwch yn derbyn adroddiadau cynnydd am eich mab/merch ddwywaith y flwyddyn
  • Cewch fynychu noswaith rieni/gofalwyr ddwywaith y flwyddyn i drafod datblygiad eich mab/merch

Os ydych yn poeni neu’n pryderu am y pontio i’r coleg o ran eich mab/merch neu os oes gennych unrhyw gwestiwn o gwbl ynghylch y cyrsiau, y cymorth a’r cyfleoedd sydd ar gael neu gyfraddau llwyddiant a chanlyniadau’r coleg, cysylltwch â’n Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau: l.jones3@merthyr.ac.uk 

Hysbysiad Cwcis

O ddefnyddio’r safle hwn rydych yn cytuno â’n defnydd ni o Cwcis.

Back to top

Croeso i Coleg Merthyr Tudful

Dewiswch dewis iath. Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am ragor o fanylion.

Cymraeg

Welcome to the College Merthyr Tydfil

Please select your language option. By using this site you agree to our use of cookies. Click here for more information.

English
Galluogi Recite