Cynhelir Noson rhieni/Gofalwyr ar ddydd Iau 28eg Tachwedd 2024 rhwng 4.00pm a 7.00yh. Bydd yn gyfle i chi drafod y cynnydd y mae eich mab neu'ch merch yn ei wneud â'u pynciau UG neu flwyddyn gyntaf eu Cwrs Galwedigaethol gyda thiwtoriaid perthnasol.
Bydd apwyntiadau wyneb yn wyneb yma yn y coleg. Fodd bynnag, os na allwch chi fynychu'r coleg yn bersonol, gallwch archebu slot ffôn yn lle.
Bydd y tiwtoriaid priodol yn anfon taflen apwyntiad i'ch mab neu'ch merch drwy Microsoft Teams i wneud apwyntiad ar adeg gyfleus. Unwaith bydd amseroedd wedi'u cadarnhau bydd y tiwtoriaid yn cysylltu'n uniongyrchol â chi ar yr adeg y cytunwyd arno.
Cysylltwch â'r coleg os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.